Prifysgol yn chwarae rhan wrth gludo’r Ffagl Olypmaidd ar ei thaith
Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ym mis Mai.
Mae'r Brifysgol hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu at yr awyrgylch carnifal a fydd yn y ddinas wrth i Fangor groesawu'r Ffagl ar ei thaith i’r Gemau Olympaidd. Fel rhan o'r dathliadau, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau ac adloniant yng nghanol y ddinas ac mewn mannau allweddol ar hyd llwybr y Ffagl.
Roedd Dr Elin Davies, Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol, ymysg y cyntaf o’r cludwyr o Gymru i gael eu cyhoeddi.
Rhwyfodd Elin Haf Davies, 35, o’r Parc, Y Bala, 5,691 o filltiroedd ar draws dau gefnfor, gan godi bron i £250,000 at elusennau. Pan laniodd yn Antigua, hi oedd y Gymraes gyntaf erioed i rwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd. Bedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach ymunodd Elin â thîm 'Angels Ocean' gan osod record byd fel y criw benywaidd cyntaf i rwyfo'r 3,139 o filltiroedd ar draws Cefnfor India - gan gymryd 78 diwrnod, 15 awr a 54 munud.
Bydd Hazel Frost, Cynorthwywr Clercyddol yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol, hefyd yn cario’r Ffagl drwy Fangor, ynghyd â Joe Mulally o Fangor. Sefydlodd Hazel Gronfa Goffa Darren Frost efo Joe er cof am ei mab, Darren, a laddwyd mewn damwain ffordd drychinebus yn 18 oed. Cododd Hazel (47) arian i greu parc sglefrio ym Mangor er cof am ei mab, ac mae'n dal i godi arian at yr elusen; bydd yn dringo Kilimanjaro yn ddiweddarach eleni.
Mae Jamie Turley, myfyriwr Gwyddor Chwaraeon blwyddyn gyntaf (Gweithgareddau Awyr Agored) o Ffynnongroyw, Sir y Fflint, sydd eisoes yn Llysgennad Ifanc dros Chwaraeon Cymru, wedi ei ddewis i redeg gyda'r Ffagl Olympaidd yn Nhywyn ar 29 Mai. Mae hynny’n briodol iawn gan mai ef yw'r gwirfoddolwr sy’n cydlynu gweithgareddau dathlu’r Ffagl Olympaidd ym Mharc y Faenol, Bangor gyda’r nos ar 28 Mai.
Mae'n awyddus i glywed gan unrhyw bobl ifanc sydd am gymryd rhan yn yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel: "Cyfle unwaith mewn oes i gael profiad o rym y Gemau Olympaidd yn yr ardal hon". Anfonwch e-bost at hughedwinjones@gwynedd.gov.uk os hoffech wirfoddoli fel rhywun ifanc yn y digwyddiad Cyfnewid Ffagl, neu e-bostiwch Jamie ar peuea5@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Mae Dr Matthew Davies, Cynorthwywr Ymchwil (27) yn yr Ysgol Cemeg, wedi cael ei gadarnhau fel un o gludwr Ffagl y Gemau Olympaidd. Mae Matthew yn Gymrawd Trosglwyddo Technoleg yng ngrŵp ymchwil Dr Peter Holliman yn yr Ysgol Cemeg. Yn frodor o Gastell-nedd, yn ne Cymru, cwblhaodd Dr Davies ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd ei enwebu gan ei bartner, Lisa. Y llynedd, fe redodd farathon Eryri, gan godi arian at elusen o'r enw SOS Affrica.
Eglurodd Matthew: "Yn y bôn mae’r elusen yn ceisio helpu ac ariannu addysg a gofal i blant difreintiedig yn rhai o drefi tlotaf Affrica. Mae'r elusen yn hyrwyddo rhoi grym i bobl drwy addysg ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf amdano. Rwyf yn parhau i gefnogi'r elusen SOS Africa a byddaf yn rhedeg marathon Eryri unwaith eto i godi arian iddynt. Rwyf hefyd yn ceisio trefnu digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn i godi hyd yn oed yn fwy o arian na’r llynedd a hefyd roi amlygrwydd i’r elusen. Yn ogystal rwyf yn gwneud cais am gyllid i geisio trefnu gweithdy gwyddoniaeth yn rhai o'r ysgolion lleol yn ardal SOS Africa (De Affrica). Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael cefnogaeth lawn yr elusen ac mae'n rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud.
"Mae'n anrhydedd mawr cael cario’r Ffagl Olympaidd" ychwanegodd. "Mae'r holl brofiad hyd yma wedi bod yn wych. Wrth siarad â chludwyr eraill mae'n anodd peidio â bod dan deimlad a chael fy ysbrydoli gan eu straeon. Mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o wneud mwy fyth i helpu i godi mwy o arian at elusennau ac i wneud cymaint â phosibl i helpu eraill. "
Un arall a ddewiswyd i gario’r Ffagl Olympaidd yw Andrew Walling, a raddiodd mewn Hanes ac a wnaeth ei PhD gyda’r diweddar Athro Duncan Tanner. Bu’n gweithio hefyd gyda’r Athro Tanner am nifer o flynyddoedd ar wahanol brojectau.
Yn athletwr a rhedwr brwd, ail hyfforddodd Andrew i fod yn ffisiotherapydd rai blynyddoedd yn ôl. Enwebwyd Andrew i gario’r Ffagl gan Mrs Christine Tanner (sy'n gweithio i’r Gwasanaethau Preswyl), a'i merch Megan, ac maent wrth eu bodd ei fod wedi cael ei ddewis. Ysgrifennodd Megan Tanner wrth ei enwebu:
"Mae Andy Walling yn ffrind rhyfeddol, ffisiotherapydd, hyfforddwr a chyfrannwr i'r gymuned. Mae'n gweithio gydag ymroddiad diflino i gynorthwyo a datblygu unigolion a thimau yn lleol ac yn genedlaethol, o bensiynwyr ac athletwyr dibrofiad i Dîm Cerdded Prydain. Mae ei ymdrechion i helpu ac ysbrydoli pobl yn ddi-ri a heb eu cydnabod yn aml. Nid yw’n gofyn am sylw; mae’n bwrw iddi, gan weithio ymhell i'r nos o ystafell fechan yn ei dŷ yn aml, ar ôl gweithio drwy'r dydd yn yr ysbyty neu glinig. Gellwch gyrraedd yn ddirybudd ar garreg ei ddrws, a bydd Andy’n eich croesawu i mewn am driniaeth, paned o de ac, yn aml, ddarn o gacen hefyd.
"Pan fu farw fy Nhad, mentor Andy, cefnogodd Andy fy nheulu, ac roedd bob amser yno i ni. Mae ef a'i blant wedi helpu fy Mam ddod ati ei hun eto. "
Ymysg graddedigion eraill a ddewiswyd mae Fiach O'Rourke, (23), sydd wedi graddio mewn Gwyddor Chwaraeon. Mae Fiach wedi cynrychioli tîm Cyfeiriannu cenedlaethol Iwerddon. Fo hefyd a sefydlodd Glwb Cyfeiriannu Undeb y Myfyrwyr tra oedd yn y Brifysgol. Hefyd dyfarnwyd un o Ysgoloriaethau Maes Glas iddo fel sbortsmon ifanc addawol.
Mae Allys Allsop, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn un o ddeg o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU a ddewiswyd gan Coca-Cola, Partner Cyflwyno’r Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan lawer o fyfyrwyr bob dydd.
Dewiswyd Allys, sy’n 19, ac yn fyfyrwraig Ieithyddiaeth blwyddyn gyntaf o Grantham, yn dilyn ymgyrch i ddod o hyd i fyfyrwyr ysbrydoledig neu 'Fflamau’r Dyfodol.'
Bydd Allys yn rhedeg er cof am ei hen daid a gafodd ei anafu yn yr Ail Ryfel Byd ac a aeth ymlaen i ennill medalau yn y Gemau Paralympaidd cyntaf ac a ysbrydolodd hi i ddod yn un o'r dyfarnwyr pêl-droed merched ieuengaf.
Mae Allys yn un o'r myfyrwyr y mae son amdanynt mewn adroddiad UUK: corff ambarél Prifysgolion Prydain: Olympic and Paralympic Games, the Impact of Universities,
a gyhoeddwyd ar gyfer Wythnos y Prifysgolion. Mae'r adroddiad yn datgelu bod mwy na 90 y cant o brifysgolion y DU yn ymwneud â Gemau Olympaidd Llundain 2012 a'r Gemau Paralympaidd, gyda 65 y cant yn disgwyl cael manteision hirdymor o gymryd rhan.
Hefyd yn cario’r fflam fydd Caitlen Moon. Bydd Caitlen, sy’n 21 ac sy’n enedigol o Stafford, yn cario’r Fflam drwy Great Wyrley ar 30 Mehefin 2012.
Mae Caitlen yn fyfyriwr drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio Ffrangeg a Saesneg. Ar hyn o bryd mae hi ar ei blwyddyn dramor yn Ffrainc.
Mae Caitlen eisoes wedi bod yn ymwneud â Llundain 2012, bu’n lansio ( Rhaglen Arweinwyr Ifanc Llundain 2012 http://www.london2012.com/media-centre/article=london-2012-and-bp-launch-a-major-new-development-progra.html ) ym mis Ionawr 2010. Yn y digwyddiad cafodd cyfle i gyfweld Dr Tony Hayward a'r Fonesig Kelly Holmes am eu rolau yn y rhaglen wirfoddoli newydd.
Cafodd ei henwebu gan ei chwaer iau a ysgrifennodd: "Caitlen Moon yw fy chwaer hŷn, gafodd ei geni yn gyda Chamweithrediad Tiwb Eustation. Golygodd hyn iddi gael pum llawdriniaeth ar ei chlustiau cyn yn 18 oed, tri phâr o Romedau yn ei chlustiau a Thiwb T yn ei chlust chwith. Doedd dim o hyn o gymorth, gan olygu bod ganddi dau Gymhorthydd Clyw, a hithau’n 18 oed. Byddai unrhyw un a oedd â’r boen a thrafferth yma’n rhoi’r gorau iddi ...ond nid fy chwaer. Dyna pam ei bod yn ysbrydoliaeth i mi ac eraill o’i hamgylch hi. Tydi hi byth yn gadael i’w anabledd cael y gorau ohoni.
Yn 2008, cafodd ei hethol MYP ar gyfer De Swydd Stafford, drwy hyn bu’n trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi a wnaeth dros 300 awr o wirfoddoli. Yna yn 2009 daeth yn rhan o V20 gyda'r sefydliad gwirfoddol VInspired ac yna daeth yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr V. Yn 2010 agorodd hi raglen Olympaidd lle bu'n cyfweld Arglwydd Seb Coe a'r Fonesig Kelly Holmes. Wrth wireddu hyn oll, llwyddodd i oresgyn ei phroblemau clyw a chael Lefel A mewn Cerddoriaeth, Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg a Ffrangeg.
Mae hi nawr yn byw yn Ffrainc am 8 mis fel rhan o’i chwrs Prifysgol. Mae hyn yn ddigon anodd heb wynebu problemau clyw cyson, yn enwedig wrth wrando ar dafodieithoedd gwahanol Ffrangeg. Mae fy chwaer yn ysbrydoliaeth am ei bod bob amser yn gwneud amser i wneud pethau dros bobl eraill ac nid yw'n gadael i’w hanabledd ei goresgyn. I mi, Caitlen Moon yw'r person mwyaf ysbrydoledig rwyf wedi cyfarfod â hwy. Mae'n gwneud i mi sylweddoli y gallaf wneud unrhyw beth yr wyf yn dymuno. "
Efallai fod yna redwyr eraill sydd â chysylltiadau â Bangor yn cymryd rhan heb yn wybod i ni. Gadewch i ni wybod!
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2012