Prifysgol yn croesawu cyhoeddiad o gyllid ar gyfer datblygiad Pontio
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r cyhoeddiad o gyllid ar gyfer y datblygiad Pontio fel hwb enfawr i economi gogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £27.5m gan Lywodraeth y Cynulliad, a’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd, yn creu a diogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan ar gyfer datblygiad twf economaidd yn yr ardal.
Meddai'r Athro Fergus Lowe, Dirprwy i'r Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, sy'n arwain y project: “Mae hwn yn newydd gwych i Fangor, yn ogystal ag i weddill Cymru a thu hwnt. Bydd Pontio’n dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol, gan dynnu pobl a busnesau at ei gilydd i hyrwyddo buddsoddi ac adfywio yng ngogledd Cymru. Bydd yn manteisio ar sgiliau ac arbenigedd lleol i greu a diogelu cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes a fydd i gyd yn hyrwyddo twf economaidd yn y rhanbarth.”
Bydd Pontio yn ganolfan o’r safon uchaf un ar gyfer arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r diwydiannau creadigol, a bydd yn llusern ddiwylliannol i Gymru ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Bydd yn cynnwys Canolbwynt Arloesi deinamig, cyfleusterau addysgu a dysgu o’r safon ddiweddaraf ac ystod o fannau perfformio dan do ac awyr agored, yn cynnwys theatr a sinema, amffitheatr awyr agored, caffis, bwytai a pharcdir lle gall pobl gyfarfod, dysgu a chael eu diddanu.
Agorir yr adeilad newydd yn fuan yn 2013 a bydd yn canolbwyntio ar sgiliau o ansawdd uchel a fydd yn cynhyrchu technolegau newydd ar gyfer busnesau mewn meysydd mor amrywiol â thechnolegau digidol, y diwydiannau creadigol, nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, biowyddoniaeth, meddalwedd ac offer delweddu uwch, ymysg llawer eraill. Bydd hefyd yn hybu a datblygu ystod o ymchwil o'r safon uchaf i faterion economaidd-gymdeithasol cyfoes pwysig, yn arbennig ym meysydd iechyd a gwarchod yr amgylchedd.
Disgwylir i’r project gael effaith gadarnhaol ar tua 900 o swyddi: caiff 450 o swyddi eu creu neu eu diogelu yn ystod y cam adeiladu, disgwylir i 100 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn ystod y cam gweithredu, a disgwylir i 330 o swyddi pellach gael eu cynnal drwy weithgareddau’r Canolbwynt Arloesi a gweithgareddau eraill y Ganolfan.
Ychwanegodd Yr Athro Lowe:
“Mae’r project yn un uchelgeisiol ac eiconig ac rydym yn credu y caiff effaith sylweddol iawn ar yr holl bobl a ddaw i gysylltiad ag o. Bydd yn rhoi Canolfan arloesol a rhagoriaeth artistig a fydd yn sicr o dynnu sylw pobl o bell ac agos, yn ogystal ag ysgogi a hybu twf economi gogledd Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth y Cynulliad ac i’r Undeb Ewropeaidd am eu gweledigaethol yn cefnogi’r project allweddol yma yng Ngogledd Cymru.
Drwy’r Ganolfan i gyd caiff arloesi newydd a mannau addysgu a dysgu cymdeithasol eu creu i roi amgylchedd addysgol modern o’r safon uchaf a fydd o fudd i fyfyrwyr, a fydd yn hybu cysylltu â’r gymuned, ac a fydd yn helpu busnesau Cymreig i gydweithio â Phrifysgol Bangor ac elwa ar ei gwybodaeth. Yn ogystal â mannau dysgu ac arloesi, bydd gan y Ganolfan gyfleusterau digidol o’r radd flaenaf i alluogi arddangos gwaith gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.
Meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Fangor ydi hwn. Byddwn yn creu Canolfan o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio a fydd yn symbol grymus o adfywio a chydweithio i’r gymuned gyfan.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2010