Prifysgol yn y Dosbarth Cyntaf am Gynaladwyedd
Gosodwyd Prifysgol Bangor ymhlith 30 prifysgol ym Mhrydain sydd wedi eu dynodi fel bod o safon ‘Gradd er Anrhydedd Dosbarth Cyntaf’ am eu gweithgareddau cynaladwyedd.
Mae’r tabl diweddaraf yn gweld y Brifysgol yn codi naw lle ac yn symud o gategori ‘2:1’ at ‘Radd Dosbarth Cyntaf’. Llwyddodd y Brifysgol i gyflawni ei sgôr uchaf erioed, gyda chynnydd o bron i 8.5% ar y ffigwr blaenorol, a llwyddo hefyd i ennill sgôr o 100% yn achos pedwar categori o blith y 13 cyfan. Mae’r gynghrair prifysgolion yn cael ei llunio gan People & Planet, a hon yw’r unig gynghrair annibynnol wedi ei neilltuo ar gyfer cynaladwyedd ym mhrifysgolion cyhoeddus Prydain. Fe’i llunnir ar sail ystod eang o feini prawf amgylcheddol, cymdeithasol a chynaladwyedd cyllidol.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi ei gosod ymysg y 3% uchaf o blith prifysgolion gwyrddaf y byd yn ôl yr UI Green Metric, yn 5ed mwyaf gwyrdd o blith prifysgolion maestrefol y byd a’r 6ed mwyaf gwyrdd yn y DU. Mae cynaladwyedd yn ystyriaeth bwysig ym Mangor ac wedi ei ymgorffori yng nghynllun strategol y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i fod y “Brifysgol Gynaliadwy”, ac mae ganddi ymrwymiad ers peth amser i wella agweddau amgylcheddol, cymdeithasol, moesol, diwylliannol ac ariannol yn ei holl weithgareddau.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Rydym yn hynod falch o ansawdd ein hamgylchedd yn y Brifysgol ac wedi ymrwymo i’w warchod a’i wella. O ganlyniad i’n ymrwymiad i gynaliadwyedd, rydym yn ystyried effaith pob dim yr ydym yn ei wneud, a sut i’w cyflawni yn well. Rwy’n hapus iawn gyda’n cynnydd parhaus wrth reoli effaith ein hamgylchedd a’n cynaladwyedd ym Mangor. Fel cymuned prifysgol, rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri.”
Meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol:
“Rwy’n falch o’r canlyniadau. Mae’r Brifysgol wedi rhoi’r i dîm Lab Cynaliadwyedd y dasg o osod cynaliadwyedd wrth galon ein dysgu ac addysgu, ymchwil, arloesi ac ymwneud â’r cyhoedd, gan ddefnyddio Golau Lles Cymru a Golau Cynaliadwyedd Byd-eang fel fframwaith ar gyfer gweithredu.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brysur wrth i ni symud tuag at ymdriniaeth tîm o’n rheolaeth amgylcheddol gan ymestyn y tu hwnt i faes traddodiadol o Wasanaethau Eiddo a Champws. Rydym wedi sefydlu Tîm Perfformiad Amgylcheddol Campws i gydlynu’r nifer o linynnau ein EMS (Sustem Mesur Amgylcheddol).
Mae ein calendr campws am y flwyddyn sydd i ddod yn llawn o weithgareddau sydd yn cael eu harwain gan ein myfyrwyr neu gyda’r myfyrwyr yn ganolbwynt, gyda’r manylion ar ein gwefan.”
Yn gynharach eleni, enillodd Undeb Myfyrwyr Bangor achrediad Ardderchog yn y NUS Green Impact Students’ Unions Awards, a hwythau eisoes wedi ennill Gwobr Aur deirgwaith yn y gorffennol; yn 2011, 2013 a 2016. Mae’r llwyddiant diweddaraf yma i’r Brifysgol yn adeiladu ar nifer o lwyddiannau mewn rheolaeth gynaliadwy dros nifer o flynyddoedd. Mae llwyddiannau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys ennill yr ISO14001 uchel-ei-barch, sef y safon ryngwladol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol. Yn ogystal â hyn, y Brifysgol oedd y sefydliad gyntaf yn y DU i ennill lefel 5 Safon y Ddraig Werdd ar gyfer Rheolaeth Amgylcheddol, gan ddilyn cyfundrefn fwy caeth y safon. Rhoddwyd plac i’r Brifysgol yn gydnabyddiaeth o’i chyfraniad at yr United Nations Industrial Development Organization (UNIDO) dros y 50 mlynedd diwethaf ac enillodd hefyd y Wobr Gyntaf yng nghategori “Sefydliad Addysg Pellach/ Addysg Uwch Gynaliadwy” yng Ngwobrau Cynnal Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017