Prifysgolion Aberystwyth a Bangor i lansio cronfa cyfalaf mentro newydd
Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor yn bwriadu lansio rhaglen uchelgeisiol i ddatblygu cronfa arloesi i gynorthwyo busnesau bychain yn y Canolbarth a’r Gogledd.
Mae’r ddwy brifysgol yn cydweithio â busnesau yn y rhanbarth ers blynyddoedd lawer, yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Ac mae llawer o gwmnïau deillio wedi’u cychwyn drwy roi gwaith ymchwil Aberystwyth a Bangor ar waith yn ymarferol.
Erbyn hyn mae’r ddau sefydliad yn awyddus i fynd â phethau gam ymhellach drwy ddarparu cyfalaf mentro i fusnesau lleol uchelgeisiol a fydd yn gallu manteisio ar fuddsoddiadau priodol.
Gweithredir y gronfa yn annibynnol ar y prifysgolion ac fe fydd yn rhoi modd i droi ymchwil a wneir yn y sefydliadau a’r tu allan iddynt, yn y Canolbarth a’r Gogledd, yn fentrau masnachol.
Ar y cychwyn fe fydd y gronfa cyfalaf mentro yn cynnwys rhyw £2m, o amryw ffynonellau gan gynnwys ecwiti preifat, ac mae’n arwydd diamwys yn pwysleisio’r cyswllt allweddol sydd rhwng y prifysgolion a’r cymunedau a wasanaethant.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Neol Lloyd, “Mae gan brifysgolion ran allweddol i’w chwarae wrth hybu arloesedd, ac mae hyn wrth galon ein gweithgareddau masnachol presennol. Wrth i hyd a lled ein cyswllt cydweithredol â’n cydweithwyr ym Mangor ddatblygu ymhellach, dyma’r adeg iawn i ni fentro i helpu cwmnïau ifainc sydd am fuddsoddi a thyfu yma yng Nghymru.”
Mae’n debyg y lansir y gronfa yn ystod hanner cyntaf 2012, yn dibynnu ar gymeradwyaeth cyrff llywodraethu’r ddwy brifysgol ac ar drafodaethau â Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.
Ychwanegodd yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae lansio’r gronfa hon yn dangos ymrwymiad cadarn y ddwy brifysgol i gyfrannu’n uniongyrchol ac ymarferol tuag at ddatblygu economaidd ein rhanbarth. Mae hefyd yn adlewyrchu’r blaenoriaethau o ran arloesi sydd gan y prosiect newydd ‘Pontio’ ym Mangor, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at yr economi leol.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2011