Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn lansio cwmni ar y cyd
Heddiw, ddydd Mercher 8 Awst 2012, lansiodd Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gwmni ymgynghori ar y cyd yn stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.
Bydd Ymgynghoriaeth Aberystwyth a Bangor Cyf yn gyfrwng i’r ddwy Brifysgol ddatblygu eu portffolio o wasanaethau ymgynghori masnachol ymhellach, ac mae’n nodwedd allweddol o ddyfodol y Gynghrair Strategol.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae ein Prifysgolion wedi gweithio gyda’i gilydd am nifer o flynyddoedd; rydym yn gyfeillion ac yn gymdogion da, ac mae gennym draddodiad da o weithio mewn partneriaeth. Mae sefydlu cwmni ymgynghori newydd ar y cyd yn un o’r amryw fentrau cyffrous a fydd yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol, ac ar yr un pryd yn caniatáu i ni hyrwyddo’n cryfderau academaidd a phroffesiynol fel sefydliadau unigol. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am lwyddiannau ein cwmni newydd wrth i ni barhau i ddarparu ystod o wasanaethau ymgynghorol o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid.”
Cafodd y cwmni ei sefydlu i fod yn gyfrwng gweithredol ar y cyd er mwyn datblygu gwasanaethau ymgynghori yn y ddwy Brifysgol gan adeiladu ar arferion sefydledig, ac i roi cynnig i gleientiaid o’r sectorau preifat a chyhoeddus elwa o’r ystod o wasanaethau a ddarperir gan y ddau sefydliad.
Meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae’r ddwy Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymchwil a’n gwaith ymgynghorol. Mae’n un o’r arfau allweddol i sicrhau bod ymchwil yn cael effaith ar y gymdeithas a’r economi. Rydym yn hynod falch o gael lansio’r cwmni newydd hwn ar y cyd i gynyddu ein gweithgareddau ymgynghorol ac i gynnig gwasanaeth amlycach a gwell ei safon i’n cleientiaid ym myd busnes a’r llywodraeth.
Wrth groesawu lansiad y cwmni, dywedodd y Prif Weinidog a’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Carwyn Jones AC: “Mae’r bartneriaeth strategol hon rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn ategu uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ledled Cymru drwy weithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin. Hoffwn eu llongyfarch ar ddatblygu'r fenter hon. Byddaf yn dilyn ei chynnydd gyda diddordeb.”
Cyhoeddwyd y Gynghrair Strategol rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2011, ac mae’n adeiladu ar bartneriaeth flaenorol rhwng y ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2012