Prifysgolion yn parhau i gael effaith bositif ar yr economi
Mae degfed arolwg blynyddol ar sut mae prifysgolion yn gweithio gyda busnes ac yn cynhyrchu busnes yn dangos eu bod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.
Mae Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch â Busnes a'r Gymuned (HE-BCI) yn dangos sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu eu harbenigedd a'u cyfleusterau, ac yn datblygu ac yn cymhwyso'u gwybodaeth gyda busnesau ac o fewn y gymuned ehangach.
Mae prifysgolion wedi parhau i gyflawni'n uwch na phwysoliad y DU sef tua 5% mewn sawl maes gweithgarwch, ac wedi gwella'u cyfran mewn gweithgareddau eraill.
Yn 2009/10, roedd perfformiad Cymru yn uwch na'r pwysoliad yn y DU mewn meysydd fel:
· Gwaith ymchwil cydweithiol a oedd yn cynnwys cyllid cyhoeddus a chyllid gan fusnes 6%
· Incwm o raglenni adfywio a datblygu 6%
· Trwyddedau meddalwedd yn unig a ddyfarnwyd 7%
· Nifer y cwmnïau deilliedig gweithredol a chwmnïau newydd a gychwynnwyd gan staff prifysgolion sydd wedi goroesi tair blynedd o leiaf 8%
· Nifer y cwmnïau deilliedig gweithredol a chwmnïau newydd a gychwynnwyd gan raddedigion sydd wedi goroesi tair blynedd o leiaf 11%
Mewn meysydd eraill, mae Cymru'n perfformio o dan y gyfran ddisgwyliedig o 5% o holl weithgarwch addysg uwch y DU yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â masnacheiddio eiddo deallusol y mae prifysgolion yn berchen arno. Fodd bynnag, mae'r arolwg diwethaf yn cadarnhau cynnydd yn lefelau'r gweithgarwch masnacheiddio a'r incwm y mae'n ei gynhyrchu.
Meddai'r Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr CCAUC: "Mae data'r arolwg diwethaf yn dangos bod prifysgolion Cymru yn parhau i gael effaith bositif ar yr economi a'r gymdeithas, hyd yn oed mewn sefyllfa economaidd anffafriol. Rydym yn cydnabod yr holl ddatblygiadau o safon uchel sy'n digwydd yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Ar ben hynny, rydym yn gweld cynnydd mewn gweithgarwch lle mae Cymru wedi'i chymharu'n anffafriol â gweddill y DU yn draddodiadol, gan gynnwys incwm o fasnacheiddio eiddo deallusol ac mewn meysydd o ymchwil cydweithredol.
"Er ein bod wedi gweld dirywiad mewn gweithgarwch yn gyffredinol yn y DU mewn nifer o feysydd, mae rhai wedi taro Cymru'n arbennig o galed, fel gostyngiad mewn gweithgarwch ymchwil contract a chyfanswm nifer y dyddiau dysgu DPP neu gyrsiau addysg barhaus a ddarperir. Mae hefyd yn dangos, er bod prifysgolion Cymru yn llwyddiannus wrth ryngweithio â busnesau bach a chanolig, nid ydynt mor llwyddiannus wrth ennill cytundebau gwerth uchel gyda chwmnïau mwy o faint. Mae hyn yn fater rydym yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd gyda'r sefydliadau eu hunain.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda phrifysgolion i roi hwb i'w llwyddiant a'u perfformiad ym mhob maes, er eu lles eu hunain, a Chymru gyfan. "
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2011