Prince Madog i gymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Bangor
Bydd cyfle unigryw i’r cyhoedd cael taith o amgylch llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog ddydd Sadwrn 12 Mawrth, a dydd Sul 13 Mawrth, fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor. Bydd y criw, a arweinir gan y Rheolwr Gweithrediadau, Trefor Owen, yn cynnig taith 30 munud o amgylch y llong ar gyfer grwpiau o hyd at 6 o bobl, rhwng 10-12.00 a 14-16.00 bob diwrnod. Nid oes angen cadw lle, ond dylai unigolion ddod yno ac aros wrth y pier ym Mhorthaethwy ar gyfer y daith nesaf.
“Os ydych yn un o’r rhai sy’n gweld y Prince Madog yn aml ar hyd y Fenai neu ar ddiwedd Pier St George, dyma gyfle gwych i chi ddod ar fwrdd y llong i ddysgu ychydig mwy amdani, am yr ymchwil yr ydym yn ei wneud a sut mae’r llong wedi’i ddylunio er mwyn hwyluso ymchwil ac offer technegol o bob math,” meddai’r Athro Mike Kaiser, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol.
Dyma gyfle gwych i ymweld â’r llong ymchwil werth £2.8 miliwn. Mae’r Prince Madog yn galluogi gwyddonwyr morol y DU i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg y môr. Mae wedi’i ddylunio i gario hyd at 10 gwyddonydd neu 20 o fyfyrwyr. Mae Prifysgol Bangor ynghyd â phrifysgolion eraill yn defnyddio’r llong i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.
Mae’r unig long o’i math wedi’i lleoli o fewn prifysgol yn y DU ac mae’n cael ei llogi hefyd i wneud ymchwil masnachol. Mae’n cael ei reoli ar y cyd gan P&O Maritime Services, mewn partneriaeth efo Prifysgol Bangor.
Dyma’r tro gyntaf i’r Brifysgol gynnal Gŵyl Gwyddoniaeth a fydd yn para am wythnos gyfan Mae’r Ŵyl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn llawn gweithgareddau sy’n rhad ac am ddim. Mae’n agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru nos Wener.
Am wybodaeth bellach ewch at: www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival/index.php.cy?
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2011