Prisgol Bangor yn croesawu ymestyniad rhaglen profiad gwaith
Mae rhaglen tair blynedd i ddarparu profiad gwaith teilwredig i fyfyrwyr llawn amser dan 25 oed wedi cael ei hymestyn.
Mae GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn darparu cefnogaeth deilwredig i fyfyrwyr cymwys iau o gefndiroedd mwy difreintiedig i gael y gorau o’u profiad gwaith a chynllunio eu camau nesaf.
Croesawodd Chris Little, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor ymestyniad rhaglen GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith gan ddweud:
“Mae projectau GO Wales wedi bod yn werthfawr dros ben wrth ddarparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystredigaethau ycghwanegol wrth gael mynediad at gyfleoedd profiad gwaith priflif. Rydym yn croesawu’r cyfle i adeiladu ar lwyddiant y project a gwella canlyniadau cyflogaddwyedd i nifer fwy o’n myfyrwyr.”
Cyflwynir y rhaglen ledled Cymru, a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, CCAUC a darparwyr addysg uwch, gan y prifysgolion er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu a mireinio eu sgiliau cyflogadwyedd drwy brofiad gwaith, fel eu bod yn y sefyllfa orau i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg pan maent yn gadael eu cwrs.
Bydd y rhaglen, a ddechreuodd yn 2016, yn dod i ben ym mis Ionawr 2022 yn awr. Hyd yma, mae 655 o fyfyrwyr wedi cael eu derbyn ar y rhaglen ac mae 351o fyfyrwyr wedi cael eu cefnogi i brofiad gwaith.
Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae wedi bod yn wych gweld y dystiolaeth gynnar bod y rhaglen yn cael effaith ar fyfyrwyr a chyflogwyr.
Hefyd mae’r adolygiad hanner ffordd drwy’r rhaglen wedi dangos bod rhaid iddi bara am gyfnod hirach er mwyn ennill momentwm o gofio, yn naturiol, ei bod yn gallu cymryd mwy o amser i sefydliadau gysylltu â myfyrwyr anos eu cyrraedd, cyn trafod eu hanghenion gyda hwy. Rydyn ni’n hyderus y bydd y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn parhau i ymgorffori’r rhaglen hon er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o fyfyrwyr â phosib yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dywedodd Jane Goodfellow, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd AGCAS Cymru, y sefydliad ar gyfer datblygu gyrfaoedd myfyrwyr AU a gweithwyr cyflogaeth proffesiynol graddedig:
"Mae rhaglen GO Wales yn elfen allweddol o’n darpariaeth profiad gwaith ni ac mae’n ffordd werthfawr o ddatblygu ystod amrywiol o fyfyrwyr a sgiliau. Felly rydw i’n hynod falch bod y prosiect wedi cael ei ymestyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr ledled y sector AU i gyflwyno’r rhaglen bwysig yma."
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2018