Profiad gwaith yn magu gwreiddiau gyda Go Wales
Cafodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor gyfle i fod yn rhan o’r cynllun gwerthfawr GO Wales yn ddiweddar gan fynd ar brofiad gwaith i Erddi Botaneg Treborth.
Daeth Thomas Cockbill, 28 oed o Walsall a chyn-fyfyriwr Sŵoleg a Chadwraeth yn Swyddog Cymunedol a Maes yn Nhreborth lle cafodd gyfle i ddatblygu ei syniadau ynglŷn â gwella a datblygu’r cyswllt rhwng ysgolion a’r gymuned gyda’r Gerddi.
Eglura Thomas; “Cefais y cyfle gyda Go Wales i weithio’n agos gyda gwirfoddolwyr ‘Ffrindiau Gardd Fotaneg Treborth’ sy’n cynorthwyo gyda datblygu a rheoli’r Ardd. Roedd yn gyfle gwych i weithio gydag ysgolion a cholegau lleol yn ogystal â myfyrwyr eraill o fewn y Brifysgol.”
Ar ôl graddio aeth Thomas ymlaen i astudio MA mewn Rheolaeth Cefn Gwlad ym Mangor ac erbyn hyn mae wedi cwblhau cwrs TAR Uwchradd mewn Bioleg.
Mae rhaglen GO Wales yn cael ei chyllido gan arian o‘r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn helpu myfyrwyr a graddedigion i gael y dechrau gorau posibl i’w gyrfaoedd yng Nghymru trwy brofiad gwaith o ansawdd. Gall GO Wales drefnu lleoliadau gydag amryw eang o fusnesau a sefydliadau mewn sawl sector a diwydiant. Yn sgìl hyn mae busnesau Cymreig yn cael y cyfle i gael at sgiliau ar lefel raddedig.
Mae Thomas yn egluro’n bellach sut iddo elwa o’r profiad gwaith;
“Mae wedi gadael i mi wneud defnydd o’r themâu wnes i ddysgu yn ystod fy BSc ac MA gan ategu at fy nghwrs TAR wrth i mi gynnig gwersi i ystod eang o ddisgyblion oedran cynradd ac uwchradd.
“Mae wedi bod yn brofiad gwych i mi ymarfer a dysgu sgiliau newydd yn ogystal â chael profiad gwaith go iawn ar leoliad a chyfarfod pobl yn y proffesiwn.
“Yn y dyfodol agos rwyf yn gobeithio datblygu rhai o fy syniadau ym mhellach i weld yr Ardd yn blodeuo, hyd yn oed efallai i fod yn gangen fechan o’r Ardd Fotaneg genedlaethol yng Nghymru.”
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyfleoedd ar gael gyda GO Wales o fewn y Brifysgol, ewch draw i’w tudalennau yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2012