Profwch Addoliad Canoloesol yn Eglwys Sant Teilo
Camwch mewn i Eglwys Sant Teilo yr wythnos nesaf (Mawrth 13 ac Iau 15 11.30 a 4.00) a byddwch yn profi, mor gywir â phosib, y golygfeydd
Camwch mewn i Eglwys Sant Teilo yr wythnos nesaf (Mawrth 13 ac Iau 15 11.30 a 4.00) a byddwch yn profi, mor gywir â phosib, y golygfeydd a’r synau a fyddai wedi’u profi gan bobl ganoloesol wrth eu gweddi. Mae’r gwasanaethau hynod anarferol hyn i’w cynnal lle yn eglwys addurnedig ganoloesol Sant Teilo, sydd wedi’i symud a’i hail-godi yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Yn y bore, bydd pobl mewn gwisg o’r cyfnod yn dathlu Offeren a Gorymdaith ganoloesol, gyda cherddoriaeth ddilys a chan ddefnyddio arteffactau crefyddol o’r cyfnod sydd wedi’u hail-greu. Dethlir Cwmplin, gwasanaeth olaf y diwrnod, ynghyd â defosiwn er anrhydedd i Enw Sanctaidd yr Iesu a fydd yn cael ei ddathlu am 4.00. Bydd y rhain i gyd yn cael eu canu mewn plaengan yn Lladin gydag ychydig o gerddoriaeth bolyffonig ar gyfer côr neu organ.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynd i’r gwasanaethau.
Mae’r ailddeddfiad defodol yn digwydd fel rhan o broject ymchwil Prifysgol Bangor ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’
“Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw ail-greu’r profiad canoloesol o addoli mor gywir â phosib. Rydym hefyd yn ail-fyw’r gwasanaethau defosiynol a fyddai, yn ôl ein tyb, wedi’u clywed yn rheolaidd yn Eglwys Sant Teilo. Mae’r ail-greadau hefyd o gymorth i’r rhai ohonom sy’n astudio cerddoriaeth a hefyd yn dod â gogwydd newydd i brofiad ein cyd-ymchwilwyr mewn sawl maes arall – yr eglwys ganoloesol, hanes cymdeithasol, celfyddyd ac archeoleg,” meddai Dr Sally Harper, un o ymchwilwyr y project ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai’r Athro John Harper, sy’n arwain y project: “Mae cyfnod hir o ymchwilio y tu cefn i’r gwasanaethau hyn. Mae’r tîm project wedi bod yn archwilio nifer o ffynonellau ysgrifenedig cynnar ac arteffactau sydd wedi goroesi. Mae casgliad cyfan o urddwisgoedd a gwrthrychau defodol hanfodol wedi’i greu – gan edrych ar y dystiolaeth hanesyddol, yn ogystal â’r enghraifft brin o organ ganoloesol sydd wedi’i hail-greu.”
Mae’r Athro Harper yn esbonio ymhellach:
“Mae rhyw ddwsin o grefftwyr wedi cyfrannu at y project hyd yn hyn. Bu pum crefftwr, gan gynnwys gofaint a saer turnio coed, yn cydweithio i wneud copi o ‘fwrdd llech gusan’ prin sydd wedi goroesi yn Eglwys Plwyf Sandon, Essex, ac yn dyddio o tua 1500. Roedd y gwrthrych hwn yn cael ei gusanu gan bob aelod o’r gynulleidfa mewn trefn fanwl yn ôl eu statws mewn cymdeithas – cyfnod o barchedigaeth neilltuol yn ystod y gwasanaeth. Mae’r project hefyd wedi esgor ar ail-greu llun o ‘Freichiau Crist’, dau fwrdd cymun (pyx) neu flwch arbennig ar gyfer cadw bara cysegredig a chostrelau, cwch a llwy ar gyfer arogldarth a lampau crog.
Mae’r Athro Harper o’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, Prifysgol Bangor, yn cydweithio â Dr Sally Harper a Judith Aveling o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a chyd-ymchwilwyr o Brifysgolion Rhydychen a Newcastle. Cyllidir y project gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o raglen Crefydd a Chymdeithas.
Mae’r project yn ceisio dyfalu nid yn unig sut yr oedd cynnal a phrofi addoli yn y Canol Oesoedd, ond hefyd sut y gallai hyn arwain at ddealltwriaeth newydd ynglŷn ag addoli mewn adeiladau canoloesol heddiw. Cyrff partneriaeth y project yw Sain Ffagan ac Eglwys Gadeiriol Caersallog.
Mae’r litwrgi Ladin wedi’i rhoi at ei gilydd o nifer o lawysgrifau a ffynonellau printiedig o Ddefod Caersallog a oedd yn cael eu defnyddio’n eang, a bydd yn cael ei chyhoeddi ar-lein. Bydd rhai o’r melodïau’n cael eu canu’n union oddi ar y nodiant gwreiddiol. Bydd y tîm project yn cynnal cyflwyniadau eraill eto yn Eglwys Gadeiriol Caersallog ar 6 a 9 Hydref.
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.bangor.ac.uk/music/AHRC/index.php.cy?
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2011