Project a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi hwb sylweddol i’r Economi Werdd
Mae dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol wedi cael budd o broject i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae project GIFT (Green Innovation Future Technologies), sy’n cael ei gynnal yng Nghymru gan Brifysgol Bangor, wedi galluogi busnesau bychain i gymryd camau sylweddol tuag at gynaladwyedd, drwy ddatblygu sgiliau uwch ymhlith staff yn y mentrau bychain a chanolig eu maint hynny sydd mor hanfodol i’r economi Gymreig.
Mae GIFT, a dderbyniodd gyllid o €2.3 miliwn o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Interreg IVA, a’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd wedi canolbwyntio ar hybu datblygiad cynaliadwy ym meysydd yr economi werdd, twristiaeth werdd rheoli gwastraff a thechnoleg werdd.
Mae’r project arloesol, a lansiwyd fis Hydref 2011, wedi gweld cydweithio rhwng Prifysgol Bangor, Waterford Institute of Technology a Choleg Prifysgol Dulyn, yn ogystal â chynnal rhwydwaith bywiog o gyrff a mentrau. Mae model hwn bellach yn cael ei efelychu yn Ewrop gan y Green Economy Coalition.
Dywedodd Dr Gareth Griffiths, a fu’n arwain y project o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor:
“Mae’r project wedi dangos bod yna le i adeiladu ymhellach ar yr economi werdd yng ngogledd orllewin Cymru ac yn Iwerddon. Rydym wedi gweld cwmnïau yn cymryd camau angenrheidiol i ‘wyrddio’ eu busnes a chael mynediad i farchnadoedd newydd. Mae ein hastudiaethau achos wedi dangos sut mae buddsoddi mewn cynaladwyedd hefyd yn arwain at gynnydd mewn elw.”
Un o’r busnesau sydd wedi elwa o gymryd rhan yn y project yw maes gwersylla Penrallt Coastal Camping ger Tudweiliog, Gwynedd. Mae’r maes gwersylla, sydd eisoes wedi ennill achrediad cynaladwyedd amgylcheddol y Ddraig Werdd, eleni wedi ymestyn eu cyfleusterau ar y safle i gynnwys ‘pod pererinion’ ac yurt.
Dyma oedd gan Pete Wilkisnson o Coastal Camping i’w ddweud:
“Roeddem yn awyddus i wneud y gorau o Lwybr Arfordir Cymru ac ail sefydlu Llwybr y Pererinion o Dreffynnon i Enlli. Rhoddodd ein hymwneud â project GIFT olwg newydd i ni ar y sefyllfa a chynyddu ein hunanhyder i wneud i bethau ddigwydd. Fe wnaeth wneud i ni hefyd edrych y tu hwnt i’n buddiannau ni’n hunain. Rydym wedi bod yn cysylltu gydag eraill sydd â diddordeb yn lleol ac ymhellach i ffwrdd ac, o ganlyniad, mae trafodaethau’n digwydd ynghylch creu rhwydwaith swyddogol o ‘bodiau’ ar hyd llwybr arfordir Llŷn a llwybr y pererinion. I’r perwyl hwn mae project GIFT wedi bod yn gyfrwng gwerthfawr i’n sbarduno i weithredu.”
Ond nid yw’r project yn ymwneud â thwristiaeth yn unig. Mae’n cynnwys cwmnïau mor wahanol i’w gilydd ag RL Davies, un o gontractwyr adeiladu mwyaf y gogledd, Rehau, sydd â ffatri yn Amlwch sy’n cyflogi 150 o bobl, a TYF Adventures, a ddatblygodd hamddena arforgampau (coasteering) ar hyd arfordir Sir Benfro, ond sydd bellach wedi ehangu i faes addysg.
Cynhelir achlysur i ddathlu llwyddiant y project a’r rhwydwaith, ac i ddod â phawb ynghyd, yng Ngwesty Tre-Ysgawen ar 9 Hydref. Os hoffech fynd i’r digwyddiad hwn, cysylltwch â s.francis@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014