Project Arloesol “Catching the light with the Rainbow Nation”
Yn ystod mis Medi fe wnaeth tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol KwaZulu-Natal (UKZN) gynnal gweithdai gwyddonol i blant o bob oed yn Durban a Mafikeng, De Affrica. Roedd y digwyddiad “Catching the Light with the Rainbow Nation” yn broject hynod uchelgeisiol gyda'r nod o wneud cemeg yn fwy poblogaidd a chyfarwydd yn Ne Affrica. Dros gyfnod o bythefnos fe wnaeth mwy na 1300 o blant gymryd rhan mewn gweithdai'n canolbwyntio ar gemeg a goleuni. Yn ogystal, cynhaliodd y tîm ddarlithoedd cyhoeddus, grwpiau trafod i ysgolion, a chael prynhawn o ddysgu cemeg a goleuni i blant sy'n cael eu cynorthwyo yn eu haddysg gan yr elusen, SOS Africa.
Cynhaliwyd yr achlysur hwn yn labordai'r Ysgol Cemeg a Ffiseg (Prifysgol UKZN), lle bu disgyblion o ysgolion uwchradd lleol yn cael gweithdai ar gynhyrchu celloedd solar o ffrwythau wedi'u sensiteiddio â lliwur a deunyddiau pob dydd. Fe wnaeth hyn nid yn unig ddysgu'r plant sut i wneud dyfais ffotofoltaidd a'i phrofi, ond hefyd bwysleisio pwysigrwydd ynni adnewyddadwy ac, yn arbennig, pa mor allweddol bwysig yw defnyddio ynni solar.
Teithiodd y tîm hefyd drwy Fynyddoedd Drakensberg i Mafikeng lle gwnaethant gynnal gweithdai i tua 1000 o blant mewn dwy ysgol uwchradd yn yr ardal, Golfview High School a Mafikeng High School, yn ogystal â'r Ganolfan Addysg Gynnar i blant 1 - 6 oed.
Meddai Dr Matthew Davies, arweinydd y project: "Roedd hwn yn ddigwyddiad ar raddfa fawr iawn; roedd angen llawer o gynllunio a gwaith caled gan holl aelodau'r tîm i'w roi ar waith. Roedd yn brofiad gwych; roedd yr holl blant a ddaeth i'r gweithdai yn gwrando'n astud, yn frwdfrydig ac yn gwerthfawrogi'r hyn roeddem yn ei wneud. Y prif nod oedd annog y plant i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac mae'r sylwadau a gafwyd yn awgrymu ein bod wedi llwyddo yn hynny o beth.
"Rydym yn gobeithio fel tîm y bydd rhai o'r plant yma'n darganfod byd rhyfeddol a chyffrous cemeg a gwyddoniaeth ymhellach gan fynd ymlaen i gael bywydau a gyrfaoedd llwyddiannus a hapus. Roedd yn bleser pur treulio cymaint o amser gyda thîm ardderchog o wyddonwyr yn dysgu a thrafod gyda phlant dymunol a oedd yn awyddus i wybod mwy. Rwy'n gobeithio mai hwn ydi'r cyntaf o lawer digwyddiad tebyg."
Meddai Tonderai Mombeshora, UKZN: "Roeddem wedi dod i ddysgu'r plant ynghylch dal y goleuni, ond yr hyn wnaeth ddal ein sylw ni oedd gwenau a rhadlonrwydd cannoedd o blant."
Cyllidwyd yr achlysur yn bennaf gan y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, Prifysgol Abertawe, ac fe'i cefnogwyd gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol KwaZulu-Natal, STRIP ac adran orllewinol leol Cymdeithas Cemeg Frenhinol De Cymru.
Meddai Albert Landman, Prifathro Mafikeng High School: "Roedd yn brofiad da, yn arbennig mewn cyfnod pan mae marciau wedi mynd yn bopeth gan fynd â phob pleser o addysg oherwydd y pwysau i gael cyfradd basio well. Mae hyn yn bolisi cibddall iawn ac ni fydd yn gwella addysg yn Ne Affrica yn y tymor hir. Efallai mai'r rhaglen yma fydd y wreichionen wnaiff danio ambell i ddarpar wyddonydd arbennig!"
Meddai Henry Matthew, llywydd SOS Africa: "Roedd y grŵp gwyddonwyr ar y rhaglen yma'n rhyfeddol a dweud y lleiaf - grŵp o bobl wirioneddol ddymunol sy'n glod i'w proffesiwn! Yn ystod y pythefnos ddiwethaf mae gwyddoniaeth wedi dod yn fyw i dros fil o blant ysgol."
Gellir gweld fideo am y daith yma:
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2013