Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau
Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan.
Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.
O’r 50 o rieni a gyfwelwyd, roedd 92% ohonynt yn cytuno bod hyder eu plentyn wedi cynyddu a bod ymddygiad eu plentyn y tu allan i’r ysgol wedi gwella. Roedd yr amcangyfrif adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiadau hefyd wedi datgelu bod y buddiannau yn llawer mwy eang, gyda theuluoedd yn elwa o berthynas gwell gyda’u plentyn, gyda’r ysgol a chyda’r gymuned.
Mae Codi’r To yn dilyn trefn project El Sistema a ddatblygwyd yn Venezuela ac mewn sawl gwald arall led led y byd. Mae’r gweithgareddau cerddorol i blant yn mynd i’r afael ar anfanteision a chyraeddiadau addysgol mewn ardaloedd amddifadedd lluosog, er budd y plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae elusen Codi’r To yn cynnal sesiynau cerddorol mewn dwy ardal ddifreintiedig yng Ngwynedd, yn Ysgol Glan Cegin, Bangor ac Ysgol Maesincla, Caernarfon.
Fel yr esbonia’r Athro Rhiannon Tudor Edwards, un o awduron yr adroddiad:
“Mae Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) yn ein galluogi i fesur amrediad eang o elfennau anniriaethol fel effaith cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y rhaglen, drwy briodoli gwerthoedd i’r elfennau hyn. Roedd hefyd yn ein galluogi i roi ystyriaeth nid yn unig i’r disgyblion ei hunain, ond hefyd i’r gwerth i’w hysgolion, eu cartrefi a’r gymuned ehangach.”
Meddai cyd-awdur yr adroddiad, Eira Winrow:
“Mae Codi’r To yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol o rhwng £4.59 a £8.95 am bob punt a fuddsoddir. Fel y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn wynebu toriadau pellach i’w gyllidebau, mae parhau’r ddarpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn dod yn fwy o her. Dyma’r dadansoddiad SROI gyntaf yng Nghymru sy’n dangos effaith positif cerddoriaeth mewn ysgolion a’r gwerth mwy eang sy’n cael ei greu drwy raglenni fel Codi’r To.”
Meddai Carys Bowen, Cydlynydd Codi’r To:
‘’ Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniadau’r adroddiad gwerthuso sydd yn ail-gadarnhau’r hyn yr ydym wedi credu ers dechrau project Codi’r To, sef bod sawl budd i addysg cerddoriaeth, a gall y rhain fod yn gymorth wrth drawsffurfio bywydau, gyda chanlyniadau positif i ddisgyblion, ysgolion a’r gymuned yn fwy eang.’’
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018