Project Dadansoddi Chwaraeon i ddod â thechnoleg dadansoddi chwaraeon i glybiau chwaraeon lleol
Mae grŵp o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli wedi bod yn gorffen y gwaith paratoadol ar gyfer project newydd yn y gymuned sydd â'r bwriad o ddod â thechnoleg dadansoddi chwaraeon i glybiau chwaraeon lleol ar lawr gwlad ym Mangor a'r cyffiniau.
Mae project diweddaraf Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yn cynnig gwasanaeth unigryw i glybiau lleol ac unigolion a chyfle gwirfoddoli unigryw iawn i fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae timau bychain o wirfoddolwyr yn mynd i wylio gemau a sesiynau hyfforddi clybiau lleol ac ar ôl ffilmio ychydig o'r chwarae maent yn gallu ei wylio'n fanwl gan ddefnyddio meddalwedd ddadansoddi arbenigol cyn cyflwyno'r canlyniadau yn ôl i'r clwb ar DVD.
Defnyddir meddalwedd a chyfarpar dadansoddi chwaraeon gan y rhan fwyaf o dimau chwaraeon proffesiynol i ddadansoddi a gwella eu perfformiad gan ei fod yn adnodd amhrisiadwy mewn deall sut a lle y gellir gwneud gwelliannau i dechneg a chyd-chwarae tîm. Mae datblygiad y project hwn wedi cyflwyno cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ennill profiad yn y maes hwn ac mae wedi profi'n boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn cyrsiau gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
Ym mis Hydref, gwahoddwyd y tîm o wirfoddolwyr i St.George’s Park yn swydd Stafford, cartref Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i ffilmio sesiynau Addysg Hyfforddi. Trefnwyd y daith gan Siôn Rowlands, Swyddog Project Gwirfoddoli Myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r project ers ei ddechreuad.
Meddai Siôn Rowlands, Swyddog y Project:
"Mae gennym dîm o wirfoddolwyr sy'n tyfu sydd i gyd â diddordeb mewn ennill profiad mewn Dadansoddi Chwaraeon ac mae hyn wedi profi'n un o'r cyfleoedd mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr wirfoddoli arno. Yn bwysicach, mae'r project hwn yn cynnig y cyfle i grwpiau chwaraeon a chlybiau lleol gael budd o wasanaeth sydd fel arfer dim ond ar gael i dimau elît. Rydym yn hyderus iawn fod hwn yn broject gwirfoddoli unigryw a chyn belled ag y gwyddom dyma'r unig un o'i fath ar hyn o bryd."
Mae'r gwasanaeth ar agor i bob clwb neu dîm chwaraeon ddim er elw ac i athletwyr unigol ym Mangor ac mae croeso i unrhyw un sydd eisiau manteisio ar y gwasanaeth gysylltu â Siôn Rowlands ar 01248 388683 neu drwy e-bost at s.rowlands@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2014