Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG
Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf.
Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.
Cyllidir y project – o’r enw eMERGe – gan Raglen Ymchwil y Sefydliad Iechyd Cenedlaethol ar Wasanaethau a Darpariaeth. Mae’r project yn cynnwys partneriaeth ag academyddion blaenllaw o Brifysgolion Bangor, Stirling, Caeredin a Chaerdydd ac yn gweithio mewn cysylltiad agos â grŵp rhyngwladol o arbenigwyr.
Meddai’r Athro Jane Noyes o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r project wedi dod â thîm gwych at ei gilydd, a byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr byd-eang i ddatblygu’r canllawiau gorau posibl fel y gall ymchwilwyr ysgrifennu adroddiadau o’r ansawdd gorau posibl, a hynny er budd cleifion a gweithwyr proffesiynol, fel ei gilydd”.
Meddai Dr Emma France, Uwch Ddarlithydd yn Uned Ymchwil Nyrsio, Bydwreigiaeth a Phroffesiynau Cysylltiedig sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Stirling, “Mae tystiolaeth ynglŷn â pha driniaethau a gwasanaethau sy'n llwyddo yn bwysig, ac eisoes yn dylanwadu ar y modd y cynllunnir gwasanaethau iechyd ond, i greu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf, mae angen hefyd inni ystyried pam a sut y maent yn gweithio, ynghyd â phrofiadau pobl o’u defnyddio.”
“Gall cyfuno tystiolaeth o lawer o astudiaethau ansoddol a geir eisoes, megis y rheiny sy’n defnyddio cyfweliadau â chleifion neu grwpiau ffocws, fwrw goleuni ar ffactorau megis pam y mae cleifion neu weithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn ymddwyn mewn modd penodol, neu sut deimlad yw profi salwch.”
Bydd y project yn canolbwyntio ar ddefnyddio dull o’r enw meta-ethnograffeg, a ddefnyddir i gyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o astudiaethau ansoddol. Bydd y tîm yn gweithio mewn cysylltiad agos â George Noblet, a ddatblygodd feta-ethnograffeg.
Mae’r dull gwn yn galluogi ymchwilwyr i ganfod dirnadaethau newydd a dod i gasgliadau newydd ynglŷn â phynciau penodol sy’n gysylltiedig ag iechyd, megis profiad pobl o gael triniaeth ar gyfer crydcymalau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015