Project gwyddoniaeth Bangor ar restr fer am wobr UE am yr ail dro
Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y chwaraeodd ymchwil Prifysgol Bangor ran allweddol ynddo, wedi ei roi ar restr fer y “Gwobrau Gwyrdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.
Mae ymchwilwyr o AIMPLAS, Sefydliad Technolegol Plastigau Sbaen; Canolfan Biogyfansoddion ac Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor; ATB, Sefydliad Peirianneg Amaethyddol yr Almaen a CETECE, Canolfan Technoleg Grawnfwydydd Sbaen wedi llwyddo i ddatblygu deunydd pacio bioddiraddadwy newydd ar gyfer cynnyrch pobi, wedi ei gynhyrchu gan y gwastraff a gynhyrchir gan y diwydiant y mae'n dod ohono.
Esboniodd Dr Viacheslav Tverezovskiy o'r Ganolfan Biogyfansoddion: "Roedd gwastraff o grystiau bara, bara tafellog a chacennau sbwng yn cael eu heplesu ac yn derbyn triniaeth ensymatig i gael asid lactig. Cafodd yr asid lactig ei bolymeru i fod yn bolymer bioddiraddadwy, PLA. Proseswyd yr olaf gan y dechneg allwthio bresennol i gynhyrchu ffilm deunydd pacio gyda nodweddion rhwystro ardderchog, sy’n addas ar gyfer cynnyrch gwahanol o'r sector pobi, hyd yn oed ar gyfer pacio pasta a fferins. Mae’r deunyddiau pecynnu newydd yn hollol fioddiraddadwy ac mae posib eu compostio."
LIFE yw ffordd ariannol yr UE o gefnogi’r amgylchedd a phrojectau cadwraeth natur ledled yr UE, yn ogystal â mewn rhai gwledydd sy’n ymgeisio i fod yn aelodau, gwledydd sydd yn y broses o ddod yn aelodau, a gwledydd cyfagos. Er 1992, mae LIFE wedi cydariannu 3506 project, gan gyfrannu oddeutu €2.5 biliwn at amddiffyn yr amgylchedd.
Bydd y ''Gwobrau Gwyrdd'' yn gwobrwyo’r projectau LIFE mwyaf rhagorol yn y cyfnod o 1992 hyd heddiw. Cawsant eu dewis gan reithgor, yn seiliedig ar nifer o feini prawf, gan gynnwys cynaliadwyedd tymor hir, cyfathrebu effaith posibl ac ehangach ar lefel cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang. O ystyried pynciau’r projectau, fe’i sgoriwyd yn ogystal ar arloesi, trosglwyddo, buddiannau amgylcheddol a gwella statws cadwraeth.
Caiff enillwyr y ''Gwobrau Gwyrdd'' eu dewis drwy gyfrwng pleidlais gyhoeddus ar Facebook, a bydd enillwyr yn cael eu datgelu yn ystod Wythnos Werdd yr UE ym Mrwsel ar 30 Mai.
Pleidleisiwch dros eich hoff broject amgylchedd LIFE!
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017