Project gwyddoniaeth Bangor yn ennill gwobr yr UE
Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan allweddol ohono, wedi ennill un o ddwy “wobr werdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.
Mae ymchwilwyr o AIMPLAS, Sefydliad Technolegol Plastigau Sbaen; Canolfan Biogyfansoddion ac Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor; ATB, Sefydliad Peirianneg Amaethyddol yr Almaen a CETECE, Canolfan Technoleg Grawnfwydydd Sbaen wedi llwyddo i ddatblygu deunydd pacio bioddiraddadwy newydd ar gyfer cynnyrch pobi, o’r gwastraff a gynhyrchir gan yr un diwydiant.
Esboniodd Dr Viacheslav Tverezovskiy o'r Ganolfan Biogyfansoddion: "Roedd gwastraff o grystiau bara, bara tafellog a chacennau sbwng yn cael eu heplesu ac yn derbyn triniaeth ensymaidd i gael asid lactig. Cafodd yr asid lactig ei bolymeru i fod yn bolymer bioddiraddadwy sef PLA. Proseswyd y polymer gan y dechneg allwthio bresennol i gynhyrchu ffilm deunydd pacio gyda nodweddion rhwystrol ardderchog, sy’n addas ar gyfer cynnyrch gwahanol yn y sector pobi, hyd yn oed ar gyfer pacio pasta a fferins.
"Mae’r deunyddiau pecynnu newydd yn hollol fioddiraddadwy a gellir eu compostio. Mae llwyddiant y project yn helpu i ddangos manteision economi gylchol ac mae yna fwy o wastraff bwyd y gellir ei ddefnyddio. Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion yn parhau i ymchwilio i PLA bio-ddeilliadol a deunyddiau bioplastig eraill i sicrhau dyfodol cynaliadwy."
Dewiswyd enillwyr y ''Gwobrau Gwyrdd'' drwy bleidlais gyhoeddus ar Facebook a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn ystod Wythnos Werdd yr UE ym Mrwsel ym mis Mai. Roedd cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth, sefydliadau addysgol, myfyrwyr, cwmnïau preifat a chyrff anllywodraethol o bob cwr o Ewrop yn bresennol yn y seremoni. Amlygodd y digwyddiad llwyddiannau trawiadol LIFE yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf a'i gyfraniad at gynaliadwyedd, lleihau effaith dynol ar yr amgylchedd, diogelu treftadaeth naturiol Ewrop a mynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd.
Disgrifiodd Karmenu Vella, Comisiynydd Ewropeaidd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, effaith rhaglen gyllido LIFE: "Mae chwarter canrif yn amser hir, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae [LIFE] wedi cyflawni llawer iawn. Mae wedi ariannu mwy na 4,000 o brojectau gwerth dros €3 biliwn." Dywedodd hefyd bod y gwobrau yn adlewyrchu gwaith y Comisiwn drwy "werthfawrogi ymdrechion miloedd, a gwaith caled ac ymroddiad pawb sydd wedi cyfrannu at y rhaglen yn ei chyfanrwydd."
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017