Project Newydd yn Gwneud y Dyfodol yn Wyrdd
Mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 2 Mai, caiff project newydd ei lansio gyda’r nod o ddod â busnesau at ei gilydd i adeiladu dyfodol cadarnach ac economi newydd. Bydd brecwast busnes i’w gael am ddim.
Menter ar y cyd yw’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd/ The Green Innovation Network, rhwng Prifysgol Bangor, University College Dublin a'r Waterford Institute of Technology, Iwerddon. Mae’r rhwydwaith wedi deillio o’r angen i sicrhau bod gan fusnesau gefnogaeth ac anogaeth i ddod dros sialensiau yn y dyfodol trwy ffyrdd newydd ac arloesol.
Mae Stuart Bond, Rheolwr Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, Prifysgol Bangor o’r farn bod angen tynnu pob busnes i’r economi werdd, nid dim ond ychydig yn unig.
“Mae sialensiau newydd yn gwneud i ni edrych yn gyson ar y ffordd rydym yn ymdrin â materion busnes, boed hwy’n dod o du cyflenwyr, rheoliadau neu faterion economaidd eang, megis y dirwasgiad economaidd a’r argyfwng ym mharth yr Ewro. Mae’r pethau hyn yn cael dylanwad ar fusnesau bach a mawr fel ei gilydd. Mae’r ffaith i RWE ac E.ON dynnu’n ôl o broject niwclear Horizon yn ddiweddar yn arwydd clir o hynny.
“Datblygwyd y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd oherwydd angen i ddod dros y sialensiau hyn a gwneud busnesau’n fwy gwydn. Gallwn fod yn sicr o ddau beth; y bydd busnesau yn y dyfodol yn gweithredu mewn byd lle bydd carbon ac adnoddau yn gyfyngedig.”
“Rydym yma i helpu busnesau i wneud synnwyr o’r economi newydd hon a sicrhau bod y rhai sy’n ymuno’n dod yn arweinwyr ac nid rhai’n llusgo ar ôl. Mae yna fantais gystadleuol wirioneddol i'w chael drwy ymwneud â'r agenda hwn a'i weld fel cyfle busnes go iawn."
Bydd y syniad o Economi Werdd hefyd yn thema bwysig yng nghyfarfod arweinwyr byd yn ddiweddarach eleni yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Rio. Gobeithir yno y bydd y dull hwn o weithredu yn lleihau tlodi, hyrwyddo cyfartaledd cymdeithasol a sicrhau yr amddiffynnir yr amgylchedd ar blaned sy’n mynd yn llawnach o bobl yn barhaus.
Cynhelir Brecwast Busnes cyntaf un y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 2 Mai a’i fwriad yw helpu busnesau i gychwyn ar eu taith werdd.
Meddai Stuart Bond:
“Ni allwn osgoi’r ffaith bod adeiladu economi newydd yn anodd a bwriad y digwyddiad cyntaf hwn yw cyflwyno’r cyfleoedd sydd ar gael i berchnogion a rheolwyr busnesau.”
Y prif siaradwr fydd Andy Middleton, cyfarwyddwr sefydlol a pherchennog Tyf, y cwmni antur carbon niwtral cyntaf, cyfarwyddwr INSPIRE (The Institute of Sustainable Practice, Innovation & Resource Effectiveness) a sefydlydd Darlithoedd Do. Bydd yn amlinellu’r sialensiau a’r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau.
Bydd cwmni adeiladu Wates hefyd yn rhannu eu profiadau o dyfu busnes gwyrdd llwyddiannus.
I sicrhau y bydd eich busnes chi’n fwy tebol i wynebu’r dyfodol a bod yn rhan o’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd dewch draw i’r achlysur cyntaf ddydd Mercher, 2 Mai a byddwch yn rhan o’r chwyldro diwydiannol newydd hwn. I archebu eich lle, anfonwch e-bost at s.francis@bangor.ac.uk
Mae’r achlysur ar 2 Mai y cyntaf o gyfarfodydd chwarterol rheolaidd. Dros y tair blynedd nesaf mae'r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd eisiau i fwy o fusnesau ymuno ac ymwneud â gweithgareddau’r project, sydd i gyd am ddim. Mae’r project, yn ogystal â’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, hefyd yn cynnal hyfforddiant proffesiynol ym mhob maes yn ymwneud ag economi werdd i fusnesau, a bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynnal astudiaethau penodol i fusnesau ar agweddau busnes neilltuol
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012