Project Pontio yn chwilio am gyflenwyr a chontractwyr lleol
Cyhoeddir cyfleoedd newydd i gontractwyr, crefftwyr a chyflenwyr lleol mewn digwyddiad ym Mangor yr wythnos hon (dydd Gwener, 1 Chwefror).
Mae Miller Construction, prif gontractwr Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor ar Ffordd Deiniol, wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflenwyr, crefftwyr a chontractwyr lleol yn cael cyfle i fod yn gysylltiedig â’r project a chyfrannu at ei lwyddiant. Mae hyn yn adlewyrchu dymuniadau'r Brifysgol a'r holl randdeiliaid.
Meddai Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Bangor: “Mae'r Brifysgol a'i rhanddeiliaid yn awyddus iawn i weld ardal gogledd Cymru yn elwa o'r project Pontio ac i weld bod cyflenwyr, crefftwyr a chontractwyr lleol yn cael y cyfle i fod yn gysylltiedig â’r project a chyfrannu at ei lwyddiant. Mae hwn yn broject sylweddol a ddylai gyfrannu at yr economi leol."
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd potensial sydd ar gael i isgontractwyr a chyflenwyr, naill ai’n uniongyrchol gyda Miller neu drwy ei bartneriaid cadwyn cyflenwi allweddol ar y project, cynhelir digwyddiad arall ‘Cwrdd â’r Prynwr’. Trefnir hwn gan Miller Construction a Gwasanaeth Cefnogi Tendro Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Adeiladu, a fydd yn cael eu cynrychioli ar y diwrnod, ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor.
Dywedodd Ian Jubb, Cyfarwyddwr Rheoli Rhanbarthol - Gogledd, Miller Construction: “Mae hwn yn gyfle arbennig i ragor o gwmnïau, contractwyr a chyflenwyr lleol fod yn gysylltiedig â'r project gwych hwn. Hoffwn annog cymaint ag y bo modd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad 'Cwrdd â'r prynwr' hwn gan ein bod yn awyddus i weld cynifer o bobl leol â phosib yn elwa'r o'r project hwn. Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni'r adeilad arloesol hwn sy'n bwysig yn bensaernïol ac a fydd yn agor yn 2014."
Yn dilyn adolygiad o ofynion y project mae'r cyfleoedd is-gontractio canlynol wedi eu hadnabod:
Gwaith coed i gynnwys drysau, fframiau, nwyddau haearn, sgyrtin a ffenestri
Gwaith brics a blociau/cladin cerrig
Rendro mewnol ac allanol
Leinin sych i gynnwys stydiau metel, byrddau plaster, sgimio a phlastro
Nenfydau crog yn cynnwys plaster a grid
Gwaith metel pensaernïol yn cynnwys rheiliau a chanllawiau
Peirianwyr mecanyddol, trydanol, plymio a draenio
Diogelwch tân, yn cynnwys paent, bwrdd a chwilt
Er mwyn mynegi diddordeb a chadw lle yn y digwyddiad a gynhelir yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor ddydd Gwener, 1 Chwefror 2013 o 9.00am ymlaen, dylai contractwyr gysylltu â Derwenna Bridle ar 01248 672610 neu derwenna.bridle@menterabusnes.co.uk.
http://www.pontio.co.uk/international-landing.php
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2013