Project Profi ar Restr Fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru
Mae Profi, project dysgu drwy brofiad a mentora sy'n rhoi cefnogaeth i ddisgyblion blwyddyn 12 ysgolion uwchradd Ynys Môn a Gwynedd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru.
Mae Profi yn rhoi hwb i hyder ac yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy a hunan-barch drwy gyfrwng cyfres o weithdai wythnosol gyda'r nod o gynnig nifer o brofiadau gwahanol i'w helpu i ehangu eu gorwelion. Mae'r project wedi bod yn cael ei redeg yn llwyddiannus am bum mlynedd.
Fel rhan o'r project, gwahoddir elusennau lleol i ysgrifennu briffiau i ddisgyblion sy'n rhoi sylw i faterion yn y gymuned y mae angen eu datrys. Gan weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, mae'r disgyblion yn gweithio fel timau cymysg i ddatblygu syniadau am brojectau i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan arwain at rownd derfynol lle mae'n rhaid iddynt ddangos y sgiliau a'r cymwyseddau y maent wedi eu datblygu yn ystod y project a chyflwyno'u syniadau i banel o feirniaid yn y gobaith o ennill £500 i'w helusen i gynnal eu project. Eleni roedd y tîm buddugol yn cynnwys disgyblion o Ysgol Tryfan ac Ysgol Dyffryn Ogwen a weithiodd ar frîff a gyflwynwyd gan Crimebeat.
Eleni cafodd Profi grant diwylliant drwy bartneriaeth greadigol Horizon Nuclear Power a Santander Universities, ac yn sgil eu gwaith caled a'u llwyddiant mae partneriaeth greadigol Horizon Nuclear Power a Profi - partneriaeth greadigol Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gymunedol Celfyddydau a Busnes. Cynhelir y gwobrau ar nos Wener 25 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Claire Burgess, Cydlynydd Rhaglen Addysg Horizon: "Mae Profi yn rhan bwysig o'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud gyda phobl ifanc ledled Gogledd Cymru, er mwyn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Rydym yn falch iawn bod project Profi wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Celfyddydau a Busnes ac rydym yn falch o gael bod yn rhan o'u llwyddiant. Hoffwn ddymuno pob lwc iddyn nhw a'r cystadleuwyr eraill yn y gwobrau!"
Dywedodd Kimberley Jones, Cydlynydd Project Profi: "Mae cyrraedd y rhestr fer mewn gwobr o'r fath yn gydnabyddiaeth o'r gwaith caled ac o ymrwymiad y bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen yn y gorffennol. Bydd y bobl ifanc a gymerodd ran yn Profi'n parhau i fy ysbrydoli i ehangu'r project ymhellach, gan roi cyfle i fwy o bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd a magu hyder. Mae'r project hwn wedi dod â nifer o sefydliadau at ei gilydd i gefnogi eu cymunedau a bydd yn parhau i feithrin y partneriaethau hynny i'r dyfodol."
Mae Profi yn cael cymorth ariannol gan lawer o fusnesau a sefydliadau lleol sef Horizon Nuclear Power, Santander Universities, Jones Bros Civil Engineering UK, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Magnox Ltd, Grant Diwylliant Celfyddydau a Busnes, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Profi hefyd yn cael cymorth gan NatWest, Undeb Myfyrwyr Bangor, ac mae ganddo bartneriaethau gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, Gyrfa Cymru a nifer o elusennau lleol sef Crimebeat, Mentrau Iaith Cymru, Gisda a Mind Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2018