Project sy’n cynorthwyo cwmnïau bach ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr yn y DU
Mae project sydd wedi gwella llwyddiant cwmnïau a chontractwyr bach lleol wrth gynnig am dendrau gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr “Project Caffael Gorau’r Flwyddyn” gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol y DU sydd i’w chynnal cyn hir.
Mae rhestr fer y Gwobrau yn ymwneud â gwaith a wnaethpwyd gan dîm ymchwil Ennill wrth Dendro yn Sefydliad Ysgol y Gyfraith ar gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICPS). Mae’r enwebiad yn cydnabod yr effaith a gafodd astudiaethau peilot Tîm Ennill wrth Dendro ar sawl Cyngor yng Nghymru. Mae’r tîm wedi argyhoeddi’r awdurdodau lleol y dylent symud tuag at Dendro Agored, ac oddi wrth Dendro Cyfyngedig annelwig, fel y gallant haneru’r amser a gymer i werthuso a phrosesu tendrau, gan arwain, ar yr un pryd, at gynnig mwy cystadleuol.
Mae’r enwebiad hefyd yn cydnabod nodwedd unigryw’r dull, y profwyd bellach ei fod yn dyblu cyfradd llwyddiant tendrau cwmnïau o fewn 12 mis i’w fabwysiadu, a hefyd yn cynorthwyo cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau i ddefnyddio fframweithiau caffael a fu gynt yn anhygyrch. Mae sawl llywodraeth dramor, yn ogystal ag asiantaethau cenedlaethol, wrthi’n mynegi diddordeb mewn defnyddio’r un dull.
Mae’r enwebiad yn dilyn teyrngedau diweddar a dalwyd i waith Ennill wrth Dendro, gan Aelodau Seneddol mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Meddai’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor a’r ICPS, “Mae hon yn gydnabyddiaeth wych o’n gwaith. Mae’n fraint inni fod mewn grŵp dethol o bum enwebai ar y rhestr fer, a’r cyfan yn gewri yn eu meysydd, yn enwau adnabyddus megis Capita, PA Consulting a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, felly rydym yn wynebu cystadleuwyr gwirioneddol rymus.”
Cyhoeddir Gwobrau’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, sef ‘Gwobrau Oscar’ y byd caffael, yng Ngwesty’r Grosvenor yn Llundain ym Medi. Eleni, Gerry Walsh, cyn-Gyfarwyddwr Caffael ym Mhwyllgor Llundain ar gyfer Trefnu’r Gêmau Olympaidd a Pharapympaidd (LOCOG), ac enillydd gwobr ‘CIPS - gweithiwr proffesiynol y flwyddyn mewn cadwyn gaffael a chyflenwi’ y llynedd, yw Cadeirydd y Panel Beirniadu. Mae’n arwain panel beirniadu o arbenigwyr enwog ym maes caffael, ac o weithwyr proffesiynol o ddiwydiant, y cyfryngau a’r byd academaidd, yn cynnwys Babcock International Group, Mars Chocolate, Grŵp y Post Brenhinol, Ysgol Reolaeth Cranfield, ITV ac HSBC.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2013