Project ymchwil ac arloesi bioburo gwerth £12m gyda chefnogaeth yr UE yn cael y golau ‘gwyrdd’
Mae buddsoddiad newydd gwerth £12 miliwn ar gyfer economi 'gwyrdd' Cymru wedi ei gyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.
Bydd prosiect BEACON+, gyda chefnogaeth ariannol gwerth £8 miliwn o gyllid yr UE, yn galluogi gwyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu deunyddiau, tanwyddau a chemegau adnewyddadwy.
Bydd y cyllid yn galluogi arbenigwyr bioburo i ddatblygu ymchwil a chynnyrch arloesol gyda 100 o fusnesau bach a chanolig yn y Gogledd, y Gorllewin a chymoedd y De.
Bioburo yw'r broses wyddonol o drawsnewid planhigion yn gemegau gwerthfawr a chynnyrch masnachol megis cynnyrch cosmetig, fferyllol, iechyd, tanwydd a thecstilau.
Nod y prosiect yw creu dros 100 o gynnyrch neu brosesau newydd mewn partneriaeth â busnesau dros y pedair blynedd nesaf.
Mae buddsoddiad heddiw yn galluogi'r Prifysgolion sy'n cymryd rhan i ddatblygu llwyddiant prosiect cyntaf BEACON. Creodd y prosiect hwn gysylltiadau agosach rhwng y byd academaidd a diwydiant Cymru ym maes technoleg carbon isel, ac fe enillodd wobr fawreddog RegioStars yr UE am ei gyfraniad at dwf cynaliadwy.
Bydd cyllid yr UE yn cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid yn ystod digwyddiad yn Stadiwm Liberty, Abertawe i nodi llwyddiannau blwyddyn gyntaf rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020 yng Nghymru.
"Rôl Prifysgol Bangor yn y project yw rhoi cymorth i gwmnïau wrth iddynt ddatblygu cynnyrch newydd", esboniodd Rob Elias, sydd yn arwain o ran Beacon yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor.
"Gan ddefnyddio ein cyfleusterau peilot gallem ddangos technolegau a chynorthwyo cwmnïau ddatblygu cynnyrch prototeip. Mae’r gallu yn fodd i gyflymu ymelwad a masnacheiddio syniadau newydd o fewn y bioeconomi.”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid:
"Mae buddsoddiad o £8 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd ym mhrosiect BEACON+ yn newyddion ardderchog a fydd yn galluogi busnesau Cymru i elwa ar ymchwil gwyddonol uwch er mwyn datblygu cynnyrch newydd, creu swyddi a chynyddu economi carbon isel Cymru."
Mae dros £420 miliwn o gyllid yr UE wedi'i fuddsoddi yng Nghymru ers i'r Comisiwn Ewropeaidd gytuno ar y rhaglenni newydd ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae cyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i roi hwb i fusnesau Cymru, datblygu sgiliau a chreu cyfleoedd am waith, manteisio ar botensial Cymru o ran ynni morol adnewyddadwy, a datblygu prosiectau ymchwil ac arloesi.
Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid:
"Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu bwrw ati'n syth i gyflawni rhaglenni cyllid newydd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n amlwg bod pobl, busnesau a chymunedau eisoes yn elwa ar gyllid sylweddol yr Undeb Ewropeaidd a fuddsoddwyd yng Nghymru eleni."
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr BEACON ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Caiff BEACON ei ysgogi gan y targedau heriol ar gyfer mabwysiadu technolegau gwyrdd a'r gofynion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi'u gosod gan lywodraethau cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd.
"Caiff technolegau carbon isel, gan gynnwys bioburo a biodechnoleg ddiwydiannol, eu hystyried fel sectorau pwysig o ran twf a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy a fydd yn cynhyrchu gweithgarwch economaidd ac yn creu swyddi. Y rhain sy'n darparu ffocws y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ac ar ei chyfer yn BEACON."
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:
"Mae rhaglenni yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi ymchwil ac arloesi, a helpu i greu datblygiadau gwyddonol yma yng Nghymru.
"Dyma brosiect ardderchog a fydd yn datblygu'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf sydd eisoes ar waith ym mhrifysgolion Cymru. Bydd hefyd yn creu buddion hirdymor, yn economaidd ac yn amgylcheddol."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015