Project ymchwil Prifysgol Bangor yn syniad da i’r dyfodol
Yn adroddiad “Big Ideas for the Future” a gyhoeddwyd heddiw (16 Mehefin), mae gwaith arloesol gan Brifysgol Bangor wedi ei ddewis yn un o’r projectau ymchwil pwysicaf ym mhrifysgolion Prydain.
Cyhoeddir yr adroddiad ar y cyd gan Research Councils UK (RCUK) ac Universities UK, ac mae’n dwyn ynghyd y prif brojectau ymchwil sy’n digwydd mewn prifysgolion ledled y DU. Roedd ymchwil ym mhob maes, yn cynnwys gwyddoniaeth, gwyddorau cymdeithas, peirianneg, y celfyddydau a'r dyniaethau, yn gymwys i'w cynnwys ac roedd project llwyddiannus Prifysgol Bangor yn un o gannoedd o brojectau a gyflwynwyd. Caiff yr adroddiad ei adrodd a’i gefnogi gan enwogion megis yr Athro Robert Winston, Dr Alice Roberts a’r Athro Iain Stewart.
Mae project Prifysgol Bangor yn ymwneud ag iechyd ac mae'r ymchwilwyr yn ceisio canfod ffyrdd o osgoi, o ohirio neu o leihau difrifoldeb anableddau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Wrth wneud hyn, maent yn ceisio hybu annibyniaeth, lles ac ansawdd bywyd pobl hŷn. Bydd yr astudiaeth yn casglu tystiolaeth o sut y gall pobl wneud ymddygiad iach yn rhan o'u bywydau bob dydd a chynnal hynny, yn enwedig wrth heneiddio. Defnyddir canlyniadau’r ymchwil i gynghori’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phobl sy’n gweithio gyda’r henoed ynglŷn â chynnal a gwella lles yr henoed.
Dyma ddywedodd yr Athro Rick Rylance, Cadeirydd RCUK, am “Big Ideas for the Future”: “Mae ymchwil yn effeithio ar fywyd pawb. Boed yn ganfyddiad newydd pwysig ym maes gwyddoniaeth arbrofol, yn ddyfais sy’n golygu bod pethau newydd yn bosib neu’n broject sy’n arwain at well dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau ein cymdeithas, mae ymchwil yn allweddol i dwf, ffyniant a lles y DU. Mae “Big Ideas for the Future” yn dangos peth o’r gwaith rhagorol a wneir mewn prifysgolion yng Nghymru sy’n llwyddo i gyflawni’r amcanion hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi unigolion dawnus sy’n gwneud ymchwil fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn”.
Dyma ddywedodd yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’r ymchwil sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Bangor yn gam arall tuag at ddeall anableddau sy’n gysylltiedig â heneiddio a hefyd ffyrdd o atal neu leihau difrifoldeb yr anableddau hynny. Mae’r ymchwil yn sicr o fod yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac i bobl sy’n gweithio efo’r henoed i geisio gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Hoffwn longyfarch y tîm ym Mhrifysgol Bangor am gael eu cynnwys yn yr adroddiad a hoffwn ddymuno’n dda iddynt efo’u hymchwil.”
Mae achlysur cyhoeddi’r adroddiad yn rhan o Wythnos y Prifysgolion, sy’n digwydd am yr ail flwyddyn yn olynol rhwng 13 a 19 Mehefin. Nod Wythnos y Prifysgolion yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y gwaith amrywiol ac eang a wneir gan brifysgolion yng Nghymru a ledled Prydain. Mae Wythnos y Prifysgolion yn edrych ar yr amryfal a’r amrywiol ffyrdd y mae prifysgolion yn effeithio ar ein bywydau – trwy gefnogi’r economi, trwy weithio gyda chymunedau lleol a thrwy ystyried sut gallai eu hymchwil newid ein dyfodol. Cynhelir cannoedd o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled y wlad yn ogystal â gweithgareddau ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a sylw gan y cyfryngau.
Ewch i http://www.rcuk.ac.uk/bigideas i lawr lwytho fersiwn llawn o’r adroddiad.
Ewch i www.universitiesweek.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am Wythnos y Prifysgolion ac ymunwch â ni ar www.facebook.com/ukuniversities os hoffech ddangos eich cefnogaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2011