Prosbectws newydd 2013 ar gael
Mae “wynebau newydd” Prifysgol Bangor bellach i’w gweld yn y Prosbectws diweddaraf ar gyfer 2013.
Mae’r cyhoeddiad eisoes wedi cael ei rannu mewn Ffeiriau Addysg Uwch ar hyd y DU ac yn cynnwys manylion am gyrsiau i is-raddedigion . Yn ogystal â manylion cyrsiau mae gwybodaeth ar gael am lety, bywyd myfyriwr, adnoddau chwaraeon a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Daeth croestoriad o fyfyrwyr o ar draws y byd i gymryd rhan yn y sesiynau tynnu lluniau ond dau sydd i’w gweld yn y lluniau yw Glesni Williams o Bwllheli a Meirion Wyn Jones o Ddinas Mawddwy. Mae’r ddau i’w gweld ymysg y myfyrwyr sydd ar glawr y Prospectus ac yn falch iawn o’r cyfle i gael gwneud hynny.
Eglura Glesni, “Rydw i’n ddiolchgar fy mod i wedi cael cymryd rhan yn y sesiwn tynnu lluniau, roedd yn brofiad newydd a chyffrous. Rwy’n ymfalchïo yn y cyfle i gynrychioli prosbectws Cymraeg y Brifysgol.”
Mae Glesni yn fyfyriwr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol a ddewisodd astudio ym Mangor gan fod y cwrs ar gael yn Gymraeg.
“Mae’r gymdeithas Gymraeg yn y Brifysgol yn un gwych ac mae’n bleser cael bod yn rhan ohono. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn yr iaith, yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasu gyda myfyrwyr Cymraeg eraill.”
Llwyddodd Glesni i dderbyn ysgoloriaeth i Fangor yn dilyn ei llwyddiant yn ei hastudiaethau Lefel A ac mae’n cynnig y cyngor canlynol i ddarpar fyfyrwyr;
“I gael cydbwysedd llwyddiannus rhwng bywyd cymdeithasol a gwaith, mae’n bwysig mynychu bob darlith a chyflwyno gwaith ar amser, ond yn ogystal mae’n bwysig mwynhau’r bywyd cymdeithasol yma ym Mangor.”
Mae Meirion, un arall sydd yn ymddangos ar y clawr, hefyd yn credu bod cymdeithas gref ym Mangor;
“Mi wnes i ddewis astudio ym Mangor oherwydd y lleoliad a’r gymdeithas Gymraeg dda. Mae Bangor yn le gwych i fyw ac astudio, gyda digonedd o bethau i’w gwneud, yn enwedig ar gyfer rhywun sy’n hoff o gymdeithasu drwy’r Gymraeg.”
Dewisodd Meirion ddilyn y cwrs Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mangor, “Roedd y cwrs yn edrych yn well nag unlle arall. Roedd y bywyd nos da hefyd yn apelio, a’r ffaith mod i’n hoff o’r awyr agored.”
Mae’r neuadd Gymraeg ym Mangor, John Morris Jones yn cynnig cyfleon i fyfyrwyr gydfyw a chymdeithasu drwy’r Gymraeg. Agorwyd estyniad i’r neuadd yn ddiweddar sydd yn ychwanegu at y profiadau sydd ar gael gyda’r Undeb Gymraeg UMCB, Aelwyd JMJ a chymdeithasau eraill.
Gall darpar fyfyrwyr ymweld â gwefan Prifysgol Bangor www.bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth a dilyn y diweddaraf ar dudalen Facebook Prifysgol Bangor a Twitter @prifysgolbangor.
Mae modd archebu copi o’r prosbectws newydd drwy’r wefan neu dros ebost prospectus@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012