Prosiect sy’n cael cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi hwb i botensial busnesau Cymru yn yr economi werdd
Heddiw (15 Mai), bu Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn lansio cam nesaf prosiect sydd â’r nod o helpu busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i fod yn fwy cynaliadwy a chefnogi’r economi carbon isel.
Mae Rhwydwaith WISE yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, ac mae’n galluogi busnesau ymhob rhan o’r rhanbarth i gymryd mantais lawn o’r twf yn yr economi werdd.
Drwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr ar ymchwil a datblygu mewn prifysgolion, a defnyddio cyfleusterau’r prifysgolion hynny, nod y prosiect yw galluogi busnesau i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau cynaliadwy, ac i fod yn fwy cynaliadwy yn economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Nod Rhwydwaith WISE yw creu diwylliant o fusnesau hyderus sy’n defnyddio ymchwil ac arloesi fel rhan hollbwysig o’u datblygiad. Yn ystod Cam 1 y prosiect, bu cydweithio llwyddiannus â 500 o gwmnïau drwy gam 1, a nawr mae 60 cwmni newydd wedi ymuno.
Ar adeg lansio’r cam diweddaraf yn Adeilad y Cynulliad, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Rydw i’n hynod falch o lansio cam nesaf rhaglen Rhwydwaith WISE. Mae cefnogi twf yn y sector allweddol yma yn beth hanfodol. Mae’n enghraifft wych o’r cydweithio parhaus rhwng diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru.”
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: “Mae creu cenedl wirioneddol gynaliadwy yn un o amcanion allweddol ein Rhaglen Lywodraethu. Mae’n bleser mawr i mi ein bod wedi gallu buddsoddi arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi hwb i’r economi werdd.”
Dywedodd yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISE:
“Mae Rhwydwaith WISE yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion busnesau, ac yn arwain at ddatblygu amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau arloesol. Busnesau bach a chanolig yw llawer o fusnesau Cymru, ac fel arfer fydden nhw ddim mewn sefyllfa i gael eu hadrannau ymchwil a datblygu eu hunain. Felly, mae arbenigedd ein tair prifysgol yn cynnig adnodd gwerthfawr, hawdd ei gael. Rydym ni’n ceisio rhoi cyngor a chymorth fel bod partneriaid masnachol yn helpu i ddatblygu’r Economi Werdd yng Nghymru drwy ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau cynaliadwy.”
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyllid Ewropeaidd, mae Rhwydwaith WISE yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar arbenigedd ymchwil a datblygu aruthrol ein tair prifysgol. Rydym yn cydweithio i roi cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau ac i wireddu ein potensial ein hunain yn yr economi werdd. Rydym yn falch o arwain y bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, gan adeiladu ar lwyddiant WISE 1 a gynhaliwyd dan arweiniad ein cydweithwyr ym Mangor."
Astudiaethau achos
Un busnes sydd eisoes yn rhan o Rwydwaith WISE yw Phytorigins o Gwm-y-Glo yng Ngwynedd. Mae’r cwmni’n cydweithio â Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth drwy WISE er mwyn canfod a fyddai ychwanegion penodol mewn bwyd anifeiliaid yn atal problemau gordewdra mewn cŵn a chathod.
Dywedodd Carol Michael o Phytorigins “Yn ôl dadansoddiad annibynnol gan GIA (y Global Intelligence Alliance) yn ddiweddar (2011), bydd y farchnad bwyd anifeiliaid fyd-eang wedi cyrraedd US$95.7 biliwn erbyn 2017. Mae hyn yn creu cyfleoedd gwych ar gyfer masnacheiddio cynnyrch a ddatblygwyd gan bartneriaid Rhwydwaith WISE, ac yn dod â manteision sylweddol posibl i economi Cymru.”
Enghraifft arall yw Hiraeth Group Sustainable o Ynys Môn, sy’n cynhyrchu nwyddau pren ar gyfer cartrefi gan ddefnyddio pren o Gymru.
Drwy Rwydwaith WISE, bu’r cwmni'n cydweithio â Phrifysgol Bangor i ddatblygu cynnyrch pren wedi ei drin â gwres sydd wedi ei ardystio i fod yn addas ar gyfer codi adeiladau cynaliadwy, yn ogystal â chynnyrch arall o safon ar gyfer cartrefi. Bu’r prosiect hefyd yn bwysig wrth ddatblygu cysylltiadau rhwng y cwmni â sefydliadau megis Coed Cymru er mwyn eu rhoi ar y llwybr cyflym i datblygu eu rhwydwaith cyflenwi. Erbyn hyn, maent yn bwriadu sefydlu cadwyn gyflenwi fwy, ynghyd â safle gweithgynhyrchu yn y gogledd.
Dywedodd Emlyn Williams, un o bartneriaid Hiraeth, fod ei gwmni wedi elwa’n fawr o gymorth Rhwydwaith WISE.
“Mi es i at Rwydwaith WISE i ddechrau efo her dechnegol, ond ers hynny maen nhw wedi helpu fy musnes mewn ffyrdd na wnes i erioed ddychmygu; brandio moesegol, cefnogaeth wrth wneud cais am arian, a rhwydweithio ... mae’r rhestr yn ddiddiwedd,” meddai.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2013