Pryd a Mwy….
Tecawês, archfarchnadoedd, prydau bwyd parod, ffâ o Kenya a pizza yn y rhewgell. Does dim modd byw hebddynt heddiw? Pwy all ddychmygu byd heb ddewis eang o fwydydd parod? Ond felna oedd hi slawer dydd a bydd dwy (neu dair) genhedlaeth yn dod ynghyd i rannu Pryd a Mwy ac i drafod bwyd ddoe a heddiw ym mwyty y Gwenyn Prysur, Penrhyndeudraeth rhwng 12-2 o’r gloch ar ddydd Iau 26ain Chwefror.
Mae’n un o nifer o ddigwyddiadau a drefnir gan Ganolfan Organig Cymru sy’n edrych ar werthoedd bwyd ac agweddau pobl tuag at fwyd lleol a’r diwydiant bwyd cyfoes. Trefnir y digwyddiad ym Mhenrhyndeudraeth gyda chydweithrediad Ysgol y Garreg Llanfrothen, Age Cymru Gwynedd ac Adrannau Daearyddiaeth Prifysgol Bangor ac Aberystwyth.
Eisioes bu Jane Powell o Ganolfan Organic Cymru a Dr Eifiona Thomas Lane, Prifysgol Bangor yn cynnal gweithdai gyda’r plant oedd yn trafod gwerth bwyd lleol iddynt hwy, yn mapio tarddiad eu bwyd; yn ei flasu wrth rannu cinio ysgol a’u holi nhw am eu profiadau bwyd ac am eu hymwybyddiaeth am y bwydydd sydd ar eu plât.
Bydd y cinio cymunedol dydd Iau yn gyfle i’r plant rhannu’u gwaith a holi y tô hŷn gan ddefnyddio cwestiynau maent wedi eu paratoi am eu profiadau a’u gwerthoedd bwyd hwy ac yn gyfle iddynt glywed straeon bwyd y genhedlaeth hŷn.
Meddai Dr Eifiona Thomas Lane:
“Rwy’n siwr y bydd yn agoriad llygaid i’r plant i drafod bwyd gyda cenhedlaeth hŷn eu cymuned o safbwynt amrywiaeth y wahanol fwydydd oedd ar gael yn lleol. Mae’r gadwyn fwyd yn llawer hirach gyda chynnyrch lleol yn cael ei symud ym mhell o’r ardal i’w brosesu ac yna yn dychwelyd yma mewn loriau! Mae cynhyrchwyr, masnachwyr bwyd a ninnau’r cwsmeriaid wedi gweld newidiadau mawr yn ystod y ganrif ddiwethaf.”
Dywedodd Jane Powell:
“Mae diddordeb cynyddol gyda pobl i wybod am tarddaid eu bwyd ac am ansawdd y bwyd hwnnw. Mae prosiect Gwerthoedd Bwyd, Canolfan Organig Cymru wedi gweithio gyda nifer o ysgolion dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth am y rhan allweddol mae proseictau bwyd lleol yn chwarae i wella iechyd a lles unigolion a chymunedau cyfan.
Bydd y pryd bwyd a gynhelir yn cynnwys cig oen sy’n dod o Bronturnor Minfordd, fferm perchennog y bwyty, Mr Jeston Homfray; a daw y cig eidion o siop fwtsar Glyn Davies Penrhyndeudraeth sy’n prynnu ei gig oddi wrth ffermwyr lleol. Bydd y tatws a rhai llysiau hefyd yn dod o fewn talgylch 25 milltir i’r bwyty.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015