PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr
Beth mae'n rhaid ei wneud i gael lle yn un o'r pedwar prif gwmni cyfrifo? Dyna gafodd sylw mewn dau ddosbarth meistr gan PriceWaterhouseCoopers (PwC) a roddwyd i fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Fel y rhif 1 yn y Times Top 100 Graduate Employers, mae PwC yn sicr yn gwybod cryn dipyn am yr hyn mae cwmnïau sy'n recriwtio graddedigion yn chwilio amdano.
Yn ystod dwy sesiwn lawn iawn fe wnaeth Andrew Bargery, Arweinydd Ymwneud â Champysau ac Ysgolion yn PwC, rannu rhai o'r pethau hyn a rhoi cyngor hynod werthfawr ar bob agwedd ar y broses ymgeisio.
Roedd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar gyfleoedd swydd gyda'r gorfforaeth ryngwladol - yn cynnwys interniaethau, cynlluniau i raddedigion ac academïau doniau proffesiynol - a chafwyd cynghorion ac awgrymiadau ar sut i lwyddo mewn cyfweliadau.
Yn yr ail sesiwn aethpwyd i fwy o fanylion am y broses ymgeisio, o lenwi'r ffurflen gais a sefyll y profion ar-lein, i ddod drwy'r ganolfan asesu yn llwyddiannus - elfen a welir mewn llawer o raglenni recriwtio graddedigion.
"Roedd yn galonogol iawn gweld cymaint o fyfyrwyr yn dod i'r gweithdai," meddai Mr Bargery. "Roedd y gweithdai'n rhai rhyngweithiol a chafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn senarios cyfweliad a mathau eraill o asesu.
"Roeddwn yn hynod falch o'u gweld i gyd yn ymroi o ddifri ac yn rhoi'r theori ar waith - bydd hyn yn sicr o fantais iddynt pan fyddant yn mynd i'w cyfweliad neu ganolfan asesu nesaf."
Cafodd myfyrwyr 5 pwynt at eu Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am bob sesiwn yr aethant iddi, a oedd yn tystio i'w hymroddiad i wella eu rhagolygon gyrfa.
"Bu ein digwyddiad deuddydd gyda PwC yn llwyddiant mawr ac roedd yn wych gweld nifer mor dda o fyfyrwyr dawnus a brwdfrydig yn gweithio gyda PwC i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth", meddai Sara Closs-Davies, Darlithydd mewn Cyfrifeg yn yr Ysgol Busnes a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Yn Ysgol Busnes Bangor rydym yn hynod frwd ynghylch datblygu sgiliau cyflogadwyedd a recriwtio ein myfyrwyr i'w paratoi at lwybr gyrfa broffesiynol fuddiol a sefydlog ar ôl iddynt raddio. Roedd hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i'n myfyrwyr ymwneud ag un o'r prif gwmnïau rhyngwladol yn y maes hwn, a chyfarfod un o'u huwch swyddogion i weithio ar broblemau a materion ymarferol y byddant yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd ar ôl iddynt raddio."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2016