Pwer Pobl ar gyfer PPE
Mae'r gymuned, y sector gyhoeddus a busnesau wedi dod at ei gilydd yng Ngogledd Cymru er mwyn creu a dosbarthu tariannau fisor am ddim i staff meddygol a gofalwyr.
Ddydd Gwener (27ain o Fawrth 2020) penderfynodd grŵp bach gychwyn ar brosiect i ddylunio, argraffu, cydosod a darparu Fisors Diogelwch i'r GIG, gan drafod gyda uwch staff meddygol. Cafodd dyluniad ei greu, ei gymeradwyo gan feddygon, a'i ddosbarthu i'r gymuned dechnoleg i’w gynhyrchu o fewn diwrnod a dechreuodd pobl argraffu.
Erbyn dydd Llun roedd dros 30 o argraffwyr 3D yn argraffu’r “fisors”. Cymerodd pob sector ran, gan gynnwys y Brifysgol, Addysg Bellac, Gwirfoddolwyr, Ysgolion Gwynedd a Mon a'r Sector Breifat. Cyhoeddwyd nawr y bydd y rhai cyntaf yn cael ei defnyddio yn Ysbyty Gwynedd ddydd Gwener yma!
Mae partneriaid wedi cynnwys Gogledd Cymru Tech, Prifysgol Bangor, Group Llandrillo Menai, Ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn, cwmnïau sector preifat fel Creo Medical, Faun Trackway, r3 Design, Menter Mon a llawer, llawer mwy gan gynnwys trigolion gwych ardal y Gaerwen.
“Mae gennym gymuned anhygoel o selogion a gwneuthurwyr technoleg yng Ngogledd Cymru ac mae’r ymateb i’r mater hwn yn dyst i hynny” meddai Carwyn Edwards, un o aelodau sefydlu Gogledd Cymru Tech, sefydliad sy’n cynrychioli selogion technoleg.
Dywedodd Brifysgol Bangor “Mae'r Brifysgol yn falch iawn o fod wrth wraidd yr ymdrech hon i ddod â chymuned o gynhyrchwyr ynghyd ar draws gogledd Cymru i gyd. Mae staff y Brifysgol a’n Parc Gwyddoniaeth wedi dangos ymrwymiad ac egni anhygoel fel y mae cymuned Tech Gogledd Cymru, sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch, a nifer o gwmnïau ac unigolion eraill ledled y rhanbarth sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi ein CIG lleol.”
Mewn un wythnos daeth dylunio, cynhyrchu a logisteg ar gyfer cyflawni ynghyd ar gyfer prosiect traws-sector, cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae hyn yn dyst go iawn y gall Ogledd Cymru arloesi, ac o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd.
“Rydw i wedi rhyfeddu gweld pŵer y bobl wrth ymateb i’r mater hwn dros y pum niwrnod diwethaf” meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc). “Mae’n dangos y gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn effeithiol, rhwng aelodau’r gymuned, y byd academaidd, y sector cyhoeddus a phreifat.”
Sefydlwyd tudalen GoFundMe fore Mawrth, oherwydd bod y plastig y mae aelodau'r gymuned yn ei ddefnyddio yn ddrud, a hoffem barhau i gynnig y fisorau am ddim. Erbyn 5pm, roedd y targed o £1000 wedi'i gyrraedd. Mae'r cyfranogiad cymunedol wedi dod nid yn unig gan y rhai sy'n creu'r masgiau, ond gan y rhai sy'n gallu cynorthwyo'n ariannol hefyd. Mae'r ymateb wedi bod yn ysgubol.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am ddyfeisgarwch a brwdfrydedd sefydliadau ac unigolion ledled Gogledd Cymru sydd wedi dod ynghyd ar adeg pan mae mae dyfeisgarwch a chydweithio yn arbennig o bwysig. Rydym wedi bod yn gweithio gydag unigolion sy'n cydlynu'r gwaith arloesol hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynhyrchion a weithgynhyrchir yn lleol yn cwrdd â'r safonau amddiffynnol gofynnol a byddwn yn helpu i sicrhau bod hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosibl” meddai Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Chymunedol o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Dr Simon Burnell, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd “Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi bod yn gwylio’r pandemig gyda phryder cynyddol. Mae ein hysbyty wedi bod yn ffodus ei fod wedi cael peth amser i baratoi, ond roedd y prinder ymddangosiadol o PPE yn Ewrop ac yn Lloegr yn frawychus. Rwy'n ein cyfrif yn ffodus bod ein cymuned leol wedi ymateb yn ysgubol trwy wneud popeth yn eu gallu i'n helpu. Mae selogion a phobl leol wedi bod yn rhoi eu harbenigedd, eu hoffer a'u hamser tra hefyd yn rhoi arian a deunyddiau crai i gael y prosiect hwn ar waith. Mae cwmnïau a sefydliadau addysgol o bob math wedi bod yn agor eu labordai i helpu mewn unrhyw ffordd y gall. Diolch i chi i gyd am helpu i amddiffyn ein GIG. ”
Y bwriad cychwynnol oedd cynorthwyo Ysbyty Gwynedd, ond roedd yn amlwg y byddai angen cymorth ar lawer mwy, ac felly aeth galwad allan ac ymatebodd meddygfeydd a chartrefi gofal yn gofyn am PPE. Mae rhestr bellach wedi'i llunio ac mae gwaith yn mynd rhagddo i barhau i gyflenwi'r rheini yn yr ardal leol sydd angen PPE. Os oes unrhyw un eisiau bod ar y rhestr aros, dylent anfon e-bost at M-SParc yn nodi pwy y maent yn ei gynrychioli, y cyfeiriad danfon, a'r maint sydd ei angen arnynt (post@m-sparc.com).
Manylion:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2020