Pwy sy’n Herio Pwy?”
Mae Mencap Cymru wedi ymchwilio a datblygu rhaglen hyfforddiant newydd ar ymddygiad heriol.
Mae ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ yn bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth 18 mis rhwng Mencap Cymru a Phrifysgol Bangor Mae’n anelu at wella gwasanaethau ymddygiad heriol i bobl ag anabledd dysgu trwy wella agweddau staff a chynyddu empathi
“Roedd angen teitl ‘i’r pwynt’ arnom a oedd yn cyfleu yn glir gwahanol safbwyntiau pobl ag ymddygiad heriol. Os edrychwch ar y lenyddiaeth academaidd o amgylch y pwnc, fe welwch gyfoeth o adborth gan bobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth ynglŷn â’r gefnogaeth y maent yn derbyn.” Meddai Lisa Hutchinson, rheolwr prosiect ‘Pwy sy’n Herio Pwy?’
“Yn anffodus, nid yw eu profiadau yn aml wedi bod yn rai da. Mae teitl y prosiect – ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ – yn gwestiwn plaen felly, sy’n adlewyrchu profiadau pobl ag ymddygiad heriol o ddefnyddio rhai gwasanaethau.”
Gwnaethpwyd y gwaith ar y cyd gyda Claire Bowler a Martin Banks, dau berson sydd wedi ymddwyn yn heriol yn flaenorol. Arweiniodd Martin a Claire gyfres o sesiynau hyfforddiant peilot i staff gofal cymdeithasol. Newidiodd agweddau y staff hyn tuag at ymddygiad heriol yn drawiadol er gwell a cryfhawyd eu hempathi. Yn galonogol iawn, dywedodd dros 75% bod yr hyfforddiant wedi bod yn ddefnydd da o’u hamser yn eu tyb hwy, a dywedodd yr un nifer y buasent yn defnyddio yr hyn a ddysgwyd ganddynt yn eu gwaith.
I Martin a Claire, mae ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ wedi golygu mwy iddynt na helpu staff cefnogol yn unig – mae hefyd wedi helpu nhw yn bersonol.
“Roedd rhoi yr hyfforddiant yn brofiad da. Mae wedi fy helpu gyda siarad yn gyhoeddus ac i siarad am fy mhroblemu” meddai Martin. “Fy nghyngor i unrhyw un sy’n rhoi hyfforddiant i bobl yw ‘byddwch yn hyderus, mwynhewch ac ymlaciwch!”
“Mae angen i bobl newid eu hagweddau” ychwanegodd Claire. “Ni ddylent fy anwybyddu pan rwy’n teimlo’n wael.”
Trefnodd y tîm prosiect gynhadledd ym Mehefin hefyd er mwyn trafod canfyddiadau yr ymchwil, ac i roi’r cyfle i bobl drafod y pwnc. Ymhlith y siardwyr yr oedd yr Athro Richard Hastings, y prif ymchwilydd o Brifysgol Bangor; Vivien Cooper, sylfaenydd y Sefydliad Ymddygiad Heriol; Beverley Dawkins o Mencap, y Swyddog Cenedlaethol ar gyfer Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog; a Dr. Roger Banks, Seiciatrydd Ymgynghorol ar Fwrdd Iechyd Prifygol Betsi Cadwaladr.
Bydd Mencap yn datblygu ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ dros y misoedd nesaf yn y gobaith o’i ddarparu ar draws y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2012