Pysgodyn Anferth yn Dilyn Kate
Bu i grwper 70 pwys, o’r enw Darth Vader, gymryd ffansi at fyfyriwr o Brifysgol Bangor dros yr haf.
Gwirfoddolodd Kate Cooper, 18, o Pembroke, Bermuda, yn y Bermuda Aquarium yn ystod ei gwyliau haf. Ymddangosodd y pysgodyn anferth yn hoff iawn o Kate, gan ei dilyn o gwmpas fel ci bach fel yr oedd yn glanhau y tu mewn i’r gwydr yn y tanciau pysgod.
Bu i Kate, sy’n astudio sŵoleg a chadwraeth yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, weithio yn y Bermuda Aquarium, Museum and Zoo (BAMZ) ar ôl ennill interniaeth Ernest E.Stempel. Cymerodd ran hefyd yn y Bermuda Turtle Project, gan helpu i dagio crwbanod y môr i olrhain eu symudiad o amgylch y môr.
Mae'r cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Bermuda i Enethod hefyd wedi cymryd rhan yng nghwrs preswyl hanes byd natur y Bermuda Zoological Society (BZS) a’r Audubon Society ar Ynys Nonsuch. Ar ôl iddi dderbyn Gwobr Coffa Mervyn White am ragoriaeth academaidd, bu iddi helpu i gynnal y cwrs y llynedd.
Meddai: “Mae BAMZ a BZS wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi dros y pum mlynedd ddiwethaf. Rydw i wedi cael profiad ymarferol yn y maes, a sawl cyfle i siarad gyda gwyddonwyr blaenllaw.
“Heb y gefnogaeth a’r cymorth gan BAMZ a BZS, efallai na fyddai gen i’r un diddordeb ag sydd gen i yn awr. Rydw i’n ddiolchgar iawn am yr ysgoloriaeth a’r profiadau a roddwyd i mi, a theimlaf y bydd yn fy helpu i ddychwelyd i Bermuda, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gobeithio.”
Mae’r pysgodyn anferth wedi’i enwi ar ôl y dihiryn sinistr yng nghyfres ffilmiau Star Wars.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012