Pysgota am Lwyddiant
Mae Sw Môr Môn yn un o nifer o fusnesau sy’n manteisio ar GO Wales, menter sy’n darparu lleoliadau a chyfnodau blas ar waith i raddedigion o brifysgol mewn maes sy’n gysylltiedig â’u gradd.
Mae GO Wales yn cynnig cyfleoedd sy’n darparu sgiliau a phrofiad rhagorol i wella CV rhywun â gradd yn yr hinsawdd economaidd anodd yma. Ar yr un pryd, mae’r fenter yn helpu busnesau lleol, yn cynnwys busnesau bychain i ganolig (SMEs) i recriwtio graddedigion, dal gafael arnynt a’u datblygu. Caiff GO Wales ei ariannu drwy Gronfa Cydgyfeiriant Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, a chaiff ei reoli gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Sw Môr Môn yn atyniad twristaidd poblogaidd ar Ynys Môn. Yn ddiweddar, fe wnaethant gynnig lleoliad gwaith deg wythnos â thâl i rywun a oedd newydd raddio i weithio fel rhan o’r tîm biolegol yn y Sw. Lowri Elen Evans, merch leol a raddiodd mewn Bioleg y Môr o Brifysgol Bangor, a enwebwyd ar ei gyfer.
Cafodd Lowri amser gwych ar leoliad yn y sw môr, ac eglurodd nad oedd fel unrhyw swydd arall yr oedd wedi’i gwneud o’r blaen,
‘Mae gweithio yn y Sw Môr yn hollol wahanol i swydd arferol 9-5. Mae rhywbeth gwahanol yn digwydd bob diwrnod! Mae’n gymaint o fraint gallu gweithio gydag anifeiliaid mor brydferth a diddorol y ceir hyd iddynt o amgylch arfordir Prydain, yn amrywio o octopws i Lysywod Pendwll 3m o hyd i forfeirch Prydeinig prin.’
Roedd yn ymwneud â chynllunio ac adeiladu tanciau ar gyfer arddangosfeydd, casglu, trosglwyddo a bwydo’r anifeiliaid, rhoi sgyrsiau a theithiau tywys i’r cyhoedd ac arweiniodd saffarïau traeth. Y sgiliau yr oedd Lowri yn ystyried iddynt fod yn fwyaf gwerthfawr oedd y rhai a gafodd drwy sgyrsiau cyhoeddus. Cyn dod i’r Sw Môr, roedd yn ystyried ei hun yn swil, ond erbyn diwedd ei lleoliad, hi oedd y ceidwad pysgoty cyntaf i wirfoddoli i roi sgyrsiau i’r cyhoedd, ‘Rydw i wir yn mwynhau siarad â’r cyhoedd a’u dysgu am fywyd y môr, cadwraeth a thrafod materion amgylcheddol pwysig.’ Dywedodd Lowri fod y lleoliad yn gam perffaith rhwng ei gradd a chychwyn gyrfa mewn ymchwil a chadwraeth y môr.
Fe wnaeth Lowri hefyd fwynhau bod yn rhan o’r hyn a gaiff ei ddosbarthu fel busnes maint bychan i ganolig (SME):
‘Mae’n lle deinamig a chyffrous i weithio ynddo, ac mae tîm y sw yn griw cyfeillgar a diddorol i weithio â nhw. Rydw i’n teimlo mor freintiedig o gael bod yn rhan o’r tîm.’
Mae mentor Lowri, sef Dylan Evans, Rheolwr Bartner y Sw Môr, yn pwysleisio natur gadarnhaol y cynllun:
‘Rydw i’n canmol gwaith Lowri’n fawr. Roedd hi’n gallu datblygu dealltwriaeth yn gyflym o’r deilliannau yr oedd arnom ni fel cwmni eu hangen, ac felly roedd yn gallu gweithio’n annibynnol a rhyddhau amser ein staff biolegol craidd.’
Fe wnaeth Dylan ganu clodydd i’r cynllun GO Wales, ac o ganlyniad, mae’r Sw Môr yn dal mewn cydweithrediad â’r fenter. Dywedodd Lowri iddi fagu cymaint o brofiad gwerthfawr ar y lleoliad gwaith, ac roedd ennill arian ar yr un pryd yn ei wneud yn hyd yn oed mwy o gymhelliant, ‘Rydw i’n ei argymell i bob un o’m ffrindiau sydd newydd raddio!’
Os ydych chi’n fusnes ar Ynys Môn, yng Nghonwy neu yng Ngwynedd a chyda diddordeb mewn cael cefnogaeth ariannol i dderbyn graddedigion, yna cysylltwch ag Elinor Churchill neu Becky Ryan ar 01248 383586 neu drwy e-bostio: gowales@bangor.ac.uk. Os ydych chi’n fyfyriwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn lleoliad Go Wales, gellwch gofrestru’ch diddordeb ar eu gwefan www.gowales.co.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2011