R.S. Thomas – Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol
Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor wedi’i nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad. Y gyntaf yw casgliad sylweddol o lawysgrifau a theipysgrifau R.S. Thomas, yn cynnwys llawer o ddeunydd anghyhoeddedig, o ystâd y diweddar Peter Jollife, casglwr blaenllaw ym maes llyfrau a llawysgrifau llenyddol modern.
“Mae hwn yn ychwanegiad o bwys at ddaliadau’r Ganolfan, sydd eisoes yn sylweddol,” meddai’r Athro Tony Brown, un o Gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan.
“Hwn oedd y casgliad mwyaf arwyddocaol o ddeunydd gan R.S. Thomas a oedd yn dal gan unigolyn preifat ac a gynullwyd dros lawer o flynyddoedd, ac rydym yn ddiolchgar am gymorth yr Archif a’r Brifysgol er mwyn ei sicrhau. Mae’r casgliad yn cynnwys drafftiau llawysgrif o gerddi, sy’n dyddio o ddechrau gyrfa Thomas, yn ogystal â gwaith diweddarach. Ceir hefyd nifer o ddarnau rhyddiaith, yn cynnwys llawysgrif cyfres o storïau byrion anghyhoeddedig, rhai honynt ar y cyd â darluniau gan wraig Thomas, yr arlunydd Elsi Eldridge. Rydym hefyd yn falch iawn fod y casgliad newydd yn cynnwys tri llun golosg o R.S. gan Elsi, gyda dau ohonynt o’r 1940au, tua’r adeg y bu iddynt briodi. Mae’n ddifyr sylwi bod y casgliad hefyd yn cynnwys toriad papur newydd yn dangos R.S. mewn dillad rygbi, ac yntau’n aelod o dîm rygbi lleol yn Wrecsam pan oedd yn gurad!”
Yn gynharach eleni cafodd y Ganolfan hefyd gasgliad sylweddol o lyfrau o lyfrgell bersonol R.S. Thomas, pan werthwyd cartref olaf y bardd, ym Mhentrefelin, gan deulu ei ail wraig, Betty Vernon. Mae’r llyfrau yn cynnwys copïau R.S. Thomas o waith nifer o feirdd a fu’n ddylanwad ar ei farddoniaeth, yn cynnwys gwaith beirdd Americanaidd megis William Carlos Williams a Wallace Stevens. Ceir hefyd gopi o The Great Hunger, gan y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh, y cydnabuwyd iddo gyfrannu at ddatblygiad portread Thomas o ffermydd mynydd-dir Cymru yn ei waith cynnar ac at lunio un o greadigaethau mwyaf cofiadwy’r bardd, Iago Prytherch.
“Mae hi o hyd yn ddiddorol cael mynediad at lyfrgell bersonol awdur,” meddai’r Athro Brown, “i gadarnhau’r hyn yr oedd yn ei ddarllen ar adeg benodol. Yn anffodus, nid oedd Thomas yn rhoi rhyw lawer o sylwadau yn ei lyfrau, ond ceir ambell enghraifft o farginalia arwyddocaol iawn ar ymylon tudalennau rhai o’i lyfrau ar ddiwinyddiaeth a gwyddoniaeth.”
Mae sicrhau deunydd gan Elsi Eldridge hefyd yn ychwanegu at gasgliad y Ganolfan o’i gwaith fel arlunydd a darlunydd – archif sy’n cynnwys dau ddyddiadur mewn llawysgrif, llyfrau braslunio, a llawer o ddyluniadau. Bu’r deunydd hwn yn sail yn ddiweddar i raglen deledu am ei bywyd a’i gwaith, y bu Dr Jason Walford Davies o Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, yn brif gyfrannwr ac yn Ymgynghorydd Academaidd arni. Roedd y rhaglen, Pwy Oedd Mrs. R.S. Thomas?, yn tynnu sylw at waith pwysig gan yr arlunydd, “The Dance of Life” – murlun anferth ar chwe ffrâm gynfas, a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer yr ysbyty yng Ngobowen, ond sydd wedi bod ynghudd, mewn storfa, am flynyddoedd lawer.
Meddai Dr Jason Walford Davies: “Mae hwn yn waith celf o bwys – yn wir yn un o’r gweithiau celf mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain ers y Rhyfel. Mae’n sobor o beth nad yw gwaith mor drawiadol yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r murlun, sy’n pwysleisio pwysigrwydd byd natur a pheryglon technoleg fodern, hefyd yn amlygu’r hyn a welir yn achos gweithiau eraill gan Elsi, yn cynnwys ei gwaith ysgrifenedig, sef ei bod wedi dylanwadu’n sylweddol ar feddwl a gwaith ei gŵr, yn enwedig o ran ei agwedd at gefn gwlad a’r amgylchedd.”
Mae rhoddion diweddar i’r Ganolfan yn cynnwys y llythyrau – cyfanswm o 152 – a anfonwyd gan R.S. Thomas dros gyfnod o hanner canrif at y bardd a’r beirniad adnabyddus, Raymond Garlick. (Cyhoeddwyd golygiad Dr. Davies o’r ohebiaeth hon yn ddiweddar gan Wasg Gomer.)
Mae’r ffaith fod y casgliadau sylweddol hyn wedi dod i feddiant y Ganolfan yn cadarnhau ei statws rhyngwladol ym maes astudio gwaith R.S. Thomas. Yn ddiweddar, croesawodd y Ganolfan nifer o ysgolheigion ar ymweliad, o’r DU ac o dramor, ac yn eu plith Ms Cheng Jia, o Brifysgol Jinan, Tsieina, a oedd ar ymweliad estynedig, ac sydd wedi cyfieithu barddoniaeth Thomas i’r Tsieinëeg.
Cyswllt:
Yr Athro Tony Brown, els015@bangor.ac.uk
Dr Jason Walford Davies, j.w.davies@bangor.ac.uk
Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas: http://rsthomas.bangor.ac.uk/hafan.html
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010