r Zoë Skoulding yn Derbyn Gwobr Cymdeithas yr Awduron am Farddoniaeth
Mae Dr Zoë Skoulding, bardd a Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn Gwobr Cholmondeley am ei champ ac am ragoriaeth ei gwaith a'i chyfraniad at farddoniaeth.
Dywedodd y Beirniad, Rod Mengham: "Mae hi'n mynd ag iaith y synhwyrau dros y ffiniau hynny lle mae'r rhan fwyaf o gerddi'n stopio'n stond." Cafodd y wobr ei chyflwyno gan Stephen Fry yng Ngwobrau Cymdeithas yr Awduron yn ddiweddar.
Mae'r Dr Skoulding wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth, gan gynnwys Teint (Hafan Books, 2016), The Museum of Disappearing Sounds (Seren, 2013), a oedd ar restr fer Gwobr Ted Hughes ar gyfer Gwaith Newydd mewn Barddoniaeth, a Remains of a Future City (Seren, 2008), a oedd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae ei cherddi wedi cael eu cyfieithu i bron i ddeg ar hugain o ieithoedd ac mae hi wedi perfformio mewn gwyliau barddonol mawr ledled America Ladin, India ac Ewrop.
Yn ogystal â'i gwaith ei hun, mae'r Dr Skoulding hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiadau ac astudiaethau beirniadol o farddoniaeth, ac mae wedi golygu blodeugerddi a chasgliadau o ysgrifau. Bu'n golygu Poetry Walesyn 2008-14 a hi oedd Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Barddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru am y cyfnod 2012-2016. Yn ddiweddar, bu'n arwain rhwydwaith rhyngwladol, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ar Farddoniaeth mewn Cyfieithiadau Estynedig.
Dywed:
"Pleser o'r mwyaf yw derbyn y wobr hon oherwydd fe gafodd y dewis ei wneud gan feirdd yr wyf yn eu hedmygu'n fawr, ac rwy'n falch iawn o gael ymuno â'r rhestr o enillwyr blaenorol ers 1966 - mae'n cynnwys fy nghydweithiwr Carol Rumens yma ym Mangor, Robert Minhinnick, fy rhagflaenydd ar Poetry Wales, a nifer o feirdd eraill y mae eu gwaith wedi bod yn bwysig i mi, megis Tom Raworth, Lee Harwood, John James, Denise Riley, Caroline Bergvall, ac fy nghyd-enillwyr eleni, Vahni Capildeo a Linton Kwesi Johnson. Mae pobl yn tueddu i feddwl am farddoniaeth fel celfyddyd unig ond mewn gwirionedd mae'n creu cysylltiadau cryf fel y gwelwn ni mewn gwobrau fel hon."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018