Recordio Cerddoriaeth Gŵyl Gerdd Dandwr Mewn Pwll Nofio!
Mae grwp o blant ysgol cerddorol o Fôn wedi creu symffoni unigryw dandwr yn eu pwll nofio lleol.
Bu’r criw o Ysgol y Graig Llangefni yn gweithio ar y prosiect gyda darlithydd cerdd o Brifysgol Bangor ar gyfer Gŵyl Gerdd Newydd Bangor .
Yn ogystal â swn dwr tap yn rhedeg, mae’r darn yn cynnwys swn dwr yn tasgu a recordiad o swn y gwyn a’r glaw. Fe fydd y perfformiad cyntaf o’r darn hwn yn un o uchafbwyntiau ‘r Ŵyl sy’n agor ar ddydd Mercher, Mawrth 12.
Mentor cerdd y plant yw’r Dr Ed Wright a bu’n eu helpu i gyfansoddi’r darn ar thema dwr. Aeth â’r plant i Ganolfan Hamdden Plas Arthur gan ddefnyddio hydroffôn i recordio synau dandwr ar gyfer y darn electronig.
Caiff y darn ei glywed am y tro cyntaf erioed ar ddydd Iau, Mawrth 13 yn ystod cyngerdd gan Electroacousic Cymru yn Neuadd Powis,yng nghwmni’r Gyfansoddwraig Ryngwladol, Natasha Barrett.
Dywed y trefnwyr fod yr Ŵyl eleni yn un o’r goreuon eto gyda’r Fiolinydd nodedig, Madeleine Mitchell yn un o’r prif atyniadau. Uchafwbwynt arall yn ddios yw’r gweithdy jazz, dan arweiniad y drymiwr Asaf Sirkis o Israel a’r cyngerdd hwyr nos o’i bedwarawd jazz yn y Bwyty Groegaidd ym Mangor Uchaf. Bydd cyngerdd awr ginio yn yr awyr agored hefyd yng Nghanolfan Siopa Deiniol .
Mae’r Dr Ed Wright yn edrych ymlaen yn arw i glywed cerddoriaeth o ddwr y Pwll nofio yn cael ei berfformio am y tro cyntaf.
Meddai: ‘Mae synau’r dwr a’r tonnau yn taro ochr y pwll yn sylfaen i ni allu ychwanegu ato.
‘Ar ol recordio’r synau dandwr, byddwn yn eu cyfuno efo’r hyn ‘da ni wedi ei recordio’n barod.Gallwn wedyn brosesu’r elfennau yma drwy’r cyfrifiadur mewn nifer o wahanol ffyrdd gan ystumio ag ymestyn i greu rhythmau yn sylfaen i’r gwaith.
‘Bydd y darn gorffenedig yn para rhwng 7 a 10 munud o hyd. Mae plant Ysgol y Graig wedi bod yn ardderchog, yn frwdfrydig ac yn hynod o awyddus i ddysgu. Mae nhw’n cymryd cryn falchder yn y prosiect ac yn teimlo’n gynhyrfus iawn i gael gorffen y gwaith a’i glywed am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Newydd Bangor. ‘
‘ Mae nhw hefyd wedi dysgu llawer iawn am ddefnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg i greu cerddoriaeth a sut y gallir defnyddio synau pob dydd i greu rhywbeth hudolus a gwahanol.’
‘Yn ol Stephanie Smythe, disgybl 11 oed o Ysgol y Graig, bu’r prosiect yn lot o hwyl.
Meddai:’ Dwi wir wedi mwynhau recordio’r holl synau ‘da ni wedi ei gynnwys yn y gerddoriaeth. Naetho ni recordio dwr tap yn dripian a synau eraill fel y gwynt a’r glaw.’
‘Roedd ei chyd-ddisgybl, Jac Davies,10 yn cytuno: ‘Mae wedi bod yn brofiad ffantastig ac yn ddiddorol iawn iawn. Mae’r plant i gyd wedi mwynhau dysgu creu’r synau amrywiol a meddwl sut y gallwn eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Allai ddim disgwyl i glywed y darn wedi ei orffen ac mi fyddaf yn falch ofnadwy pan gaiff o’i berfformio am y tro cyntaf!’
Yn ôl y Brifathrawes, Eirianwen Williams; ‘ Profiad cerddorol gwych i’r plant a chyfle arbennig i gael gweld sut mae creu synau a’u hymgorffori yn y gwaith.’
Mae’r symffoni dandwr wedi bod yn brofiad newydd iawn i’r plant , yn rhywbeth cwbwl wahanol iddynhw.’
‘Ry ni’n tueddu i wneud lot o gerddoriaeth draddodiadol yn yr ysgol felly mae’r cyfle i weld,clywed a chreu rhywbeth gwahanol yn wych.’
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014