REF 2014: ADNODD yn codi i’r 20 uchaf yn y DU
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod fel gwaith sydd ymysg yr 20 uchaf yn y DU.
Yn ogystal â’r ffaith fod yr Ysgol wedi sicrhau safle uchel yn genedlaethol, barnwyd bod 78% o’r deunydd ymchwil a gyflwynwyd naill ai o safon gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Gosodwyd ymchwil ym maes Systemau’r Ddaear a Gwyddor yr Amgylchedd yn 15fed yn y DU o ran Ansawdd Ymchwil, a phrofodd y maes hwn y 5ed cynnydd i’r mwyaf yn y DU o ran mesuriad. Ym maes Amaeth, gosodwyd ein hymchwil ni yn 4ydd yn y DU am Rym Ymchwil, sy’n mesur maint yr ymchwil o ansawdd uchel. Cyflwynwyd ar gyfer y ddwy uned asesu hyn ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth.
Mae’r safleoedd yn adlewyrchu’r amrywiaeth hynod o eang o bynciau ymchwil a geir yn yr Ysgol - o fesur olion traed carbon bwydydd, cadwraeth yr ecosystem a biocemeg amgylcheddol hyd at bathogenau sy’n effeithio ar iechyd pobl yn yr amgylchedd.
Mynegodd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Morag McDonald, ei boddhad ynglŷn â’r newyddion a gyhoeddwyd heddiw, “Mae hwn yn ganlyniad gwych sy’n dangos ein cynnydd o fewn y sector yn y DU. Nid yn unig y bernir bod yr ymchwil yn benigamp, ond barnwyd bod 96% o’r effaith a gaiff ein hymchwil ar yr economi, ar gymdeithas ac ar yr amgylchedd ar flaen y gad neu’n rhagorol ar raddfa ryngwladol. Roedd hyn yn cynnwys strategaethau newydd ar gyfer bridio mathau newydd o reis, india-corn a grawn bach sydd wedi’u tyfu ar fwy na 3M hectar o dir amaethyddol ac sydd, yn ôl yr amcangyfrifon, yn rhoi buddion o £36M yn flynyddol i’r ffermydd tlotaf mewn ardaloedd ymylol yn Neheudir Asia.
“A ninnau eisoes wedi cael cynnydd o 11% yn ein sgôr o’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) eleni, rydym yn wir yn gwneud gwahaniaeth ar raddfa fyd-eang a HEFYD yn rhoi profiad gwych i fyfyrwyr.”
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014