REF 2014: canlyniadau'n cadarnhau effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith
Roedd Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu canlyniadau REF yr ysgol, yn dilyn y cyflwyniad cyntaf gan Ysgol y Gyfraith, sy'n ddeg oed, i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
"Rydym yn ystyried bod ein set gyntaf o ganlyniadau dan REF yn rhai cadarnhaol iawn," meddai'r Athro Dermot Cahill. "Mae ein sgôr uchel iawn o ran effaith (100% yn 3*, h.y. yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol) yn arbennig o foddhaol gan ein bod yn canolbwyntio ar wneud ymchwil sy'n rhoi sylw i faterion sydd o wir bwys i gymdeithas.
"Mae ein hymchwil wedi cefnogi ehangu gwasanaethau’r gyfraith sydd ar gael yn rhanbarthol, er lles Cymru yn ogystal â'r DU yn ehangach, ac mae ein gwaith ym maes deddfwriaeth caffael wedi bod yn bwysig iawn o ran cyfrannu at lunio polisi cyhoeddus yn y maes pwysig hwn.
"Fel Ysgol y Gyfraith sy'n gymharol ifanc, mae'r canlyniadau REF hyn yn dynodi carreg filltir bwysig arall yn ein datblygiad cyflym parhaus, ac yn dangos ein bod mor berthnasol i anghenion y sector cyfreithiol. Wrth eu gosod ochr yn ochr â'n safle gwych o ran boddhad myfyrwyr- 7fed yn y DU - mae'n hawdd gweld pam bod Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn dod yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr y gyfraith."
Gellir mynd at dabl cryno o ganlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014