REF 2014: Cydnabod dylanwad ysgolheictod Ysgol y Gymraeg
Ar hyd y blynyddoedd y mae ysgolheigion Cymraeg Prifysgol Bangor wedi cyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cymru. Bu galw cyson am eu gwasanaeth ym myd yr Eisteddfod, ar radio a theledu, ac ymhlith cymdeithasau llenyddol ar hyd a lled Cymru. Drwy gyfrwng eu cyhoeddiadau, ym maes geiriaduraeth ac ysgrifennu creadigol yn enwedig, y mae eu dylanwad ar fywyd Cymru wedi bod yn bellgyrhaeddol. Ategir hynny hefyd ym Mangor gan Ganolfan Bedwyr a’r Uned Technolegau Iaith sydd wedi cyfrannu’n helaeth at hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac ym myd addysg.
Mae’r cyfraniad hwn bellach wedi ei gydnabod yn ffurfiol mewn arolwg o waith ymchwil holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, sef Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Ym maes y Gymraeg, ieithoedd modern ac ieithyddiaeth yr oedd Bangor yn yr ail safle allan o 57 o sefydliadau yng nghyd-destun dylanwad gwaith ymchwil y tu hwnt i furiau prifysgolion ac ar gymdeithas yn gyffredinol.
Ym marn Yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, y mae’r llwyddiant hwn yn deillio o ymrwymiad deublyg a fu’n nodwedd erioed ar astudio’r Gymraeg ym Mangor.
“Fel academwyr ym maes y Gymraeg, ein braint fawr ni yw cael ymwneud yn ysgolheigaidd â’r Gymraeg a’i llenyddiaeth a chynnal ac ymestyn y traddodiad deallusol o’u hastudio. Law yn llaw â hynny yr ydym yn hynod ymwybodol nad mewn gwagle y mae ysgolheictod y Gymraeg yn bodoli. Mae cyfrannu i’r diwylliant Cymraeg ac ymwneud yn egnïol â chynulleidfaoedd y tu hwnt i furiau’r Brifysgol yn beth cwbl naturiol i ni. Wrth gwrs, y mae’n fonws ychwanegol fod yr agwedd bwysig hon ar ein gweithgarwch bellach wedi ei cael ei chydnabod yn ffurfiol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.”
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014