REF 2014: Cyfraddau uchel i ymchwil Hanes
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod fel gwaith sydd yn yr hanner uchaf yn ei sector ym Mhrydain.
Yn ogystal ag ennill safle cenedlaethol uwch, ystyriwyd bod 70% o'r deunydd ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 naill ai'n gyda'r gorau yn y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol. Roedd y meysydd ymchwil yn cynnwys ystod eang o feysydd ar draws ystod o grwpiau pwnc, o Archaeoleg a Threftadaeth at Hanes Canoloesol a Modern Cynnar, Hanes Modern a Chyfoes ac, yn croesi pob maes pwnc, Hanes Cymru.
Mynegodd Pennaeth yr Ysgol, Dr Peter Shapely, ei foddhad â'r canlyniadau: “Mae'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg wedi gwneud yn arbennig o dda mewn maes academaidd hynod o gystadleuol. Rydym wedi gwella ar ein safle yn y tablau cynghrair, wedi cynyddu Cyfartaledd Pwyntiau Gradd (GPA) ein cynnyrch ac wedi creu amgylchedd ymchwil ac astudiaethau achos ar effaith sydd ill dau yn rhagorol.
"Mae'r ffaith bod yr holl adrannau Hanes wedi symud i hanner uchaf y tabl yn adlewyrchu gwaith caled, ymroddiad ac agweddau arloesol ein haelodau staff. Mae hyn ar ben ein sgoriau gwych yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, a'n gwelodd yn gwella i gyfradd drawiadol o 95 y cant o foddhad myfyrwyr, gan danlinellu ymhellach bod astudio Hanes, Hanes Cymru, Archeoleg neu Dreftadaeth ym Mangor yn golygu dewis un o brif ysgolion academaidd Prydain ynghyd â phrofiad gwych i fyfyrwyr."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014