REF 2014: Ymchwil yr Ysgol yn Ail yn y DU o ran Effaith
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant y Brifysgol yn Fframwaith Asesu Ymchwil 2014, o ran yr Uned Asesu ar Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth.
Mae’r Uned wedi’i chydnabod yn gydradd ail yn y DU o ran ei heffaith, a mwy na dwy ran o dair o’r cynnyrch ymchwil wedi’i barnu naill ai’n benigamp neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Barnwyd bod 90% o’r astudiaethau achos ymchwil a gyflwynwyd yn cael effaith benigamp, a’r 10% oedd yn weddill yn cael effaith ragorol ar lefel ryngwladol.
Roedd y pynciau ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg yn canolbwyntio ar agweddau ar ddwyieithrwydd, yn cynnwys caffael geirfa mewn dwy iaith, morffoleg a darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg, a materion cysylltiedig â’r modd y mae plant dwyieithog yn dewis defnyddio iaith y tu fewn a’r tu allan i iaith y dosbarth yn yr iaith leiafrifol.
Mynegodd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Enlli Thomas, ei boddhad ynglŷn â’r canlyniadau: “Mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol ac yn dyst i bwysigrwydd cynnal ymchwil o’r ansawdd uchaf. O gofio ein cysylltiad ag ysgolion, gall ein hymchwil ni ddylanwadu ar batholeg ac, yn y pen draw, gwella addysg plant. Mae gennym enw penigamp ar draws y byd fel arweinwyr ym maes addysg ddwyieithog, ac mae canlyniadau REF 2014 yn dyst i’n gallu i gael effaith ar ddatblygiadau yn y maes yn y dyfodol.”
Mae canlyniadau’r REF yn dilyn perfformiad yr Ysgol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 a oedd yr un mor gryf. Mae canlyniadau ACM yn gosod cyrsiau SAC yr Ysgol mewn Addysg Gynradd ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr, tra bo cyrsiau eraill hefyd wedi ennill sgôr uchel (yn cynnwys canran boddhad o 100% yn y cwrs BSc mewn Dylunio a Thechnoleg).
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014