REF 2014 yn cadarnhau enw da Ysgol Seicoleg Bangor drwy'r byd
Mae Ysgol Seicoleg Bangor wedi gwneud yn eithriadol o dda yn y canlyniadau ymchwil diweddaraf, gyda 89% o'i hymchwil yn cael ei hystyried 'gyda'r orau yn y byd' neu 'yn rhagorol yn rhyngwladol' ac yn y 17eg safle yn gyffredinol (allan o 82 o brifysgolion).
Un elfen allweddol yn y llwyddiant hwn yw ymdrechion yr ysgol i greu effaith y tu allan i'r byd academaidd. Yn y categori hwn cafodd cyflwyniad cyfan yr ysgol ei gyfrif yn 'rhagorol' neu'n 'sylweddol iawn' o ran ei gyrhaeddiad a'i arwyddocâd. Yn gyffredinol, mae'r perfformiad hwn yn parhau ein traddodiad o ganlyniadau eithriadol o dda mewn ymarferion asesu ymchwil sy'n ymestyn yn ôl dros 20 mlynedd.
Mynegodd Pennaeth yr Ysgol, Dr John Parkinson, ei foddhad â'r canlyniadau diweddaraf: "Rydw i'n falch iawn o berfformiad yr ysgol mewn un o'r unedau mwyaf a mwyaf cystadleuol yn REF 2014.
"Rydw i wedi bod yn ymwybodol erioed o gryfder ein hysgol sydd wedi denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i Fangor a'r ffaith bod 40% o'n gwaith ymchwil yn cael ei gyfrif 'gyda'r orau yn y byd' yn dyst i'r cryfder hwnnw. Mae ein sgor effaith uchel, sy'n ymwneud â gweithgareddau megis Ymwybyddiaeth Ofalgar, Dementia, a Bwyta'n Iach yn dangos ein bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn y byd.
"Credaf ei bod yn werth ailbwysleisio bod y perfformiad rhagorol hwn yn y REF yn dilyn yn syth ar ôl perfformiad eithriadol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 lle'n gosodwyd ni yn y deg uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran 'boddhad myfyrwyr'. Ychydig iawn o adrannau eraill yn y DU a all gynnig tystiolaeth mor argyhoeddiadol o ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu. Nid oes amheuaeth nad ydym yn cynnig amgylchedd ymchwil a phrofiad academaidd eithriadol o dda mewn rhan brydferth o'r byd ac rydw i'n eithriadol o falch o arwain ysgol mor unigryw".
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014