Refferendwm yr UE
Yn dilyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, hoffai'r brifysgol sicrhau darpar fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a staff nad yw'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd unrhyw newid amlwg ar hyn o bryd yn y ffordd mae'r sector brifysgol yn y DU yn cymryd rhan mewn rhaglenni UE megis Horizon 2020 ac Erasmus+, nac i statws mewnfudo myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr o'r UE a staff, oni bai bod gweithredu unochrog o du Llywodraeth y DU.
Mae Erthygl 50 Cytundeb Lisbon yn rhagweld proses drafod ddwy flynedd rhwng y DU ac Aelod-Wladwriaethau eraill. Yn ystod yr amser hwnnw penderfynir ar y telerau y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn y cyfamser, gallwn ddisgwyl y canlynol:
I fyfyrwyr presennol o'r UE: nid yw eich statws mewnfudo a statws ffioedd cysylltiedig, yn ogystal â mynediad at fenthyciadau i fyfyrwyr, wedi newid o ganlyniad i'r bleidlais. Bydd hyn yn parhau hyd nes bydd y Llywodraeth yn penderfynu fel arall.
Myfyrwyr o'r UE gyda lle i ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2016/17 a 2017/18: Ar hyn o bryd nid oes unrhyw reswm i ragdybio unrhyw newid i'ch statws mewnfudo neu fynediad at fenthyciadau myfyrwyr.
Myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yn y DU dan y rhaglen Erasmus: Nid yw eich statws mewnfudo wedi newid, a byddwch yn parhau'n gymwys i dderbyn eich grant Erasmus o leiaf cyn hired ag y byddwn yn aelod o'r UE ac mae'n bosibl y caiff ei ymestyn ar ôl hynny hefyd.
Myfyrwyr o'r DU sy'n astudio yn yr UE ac mewn mannau eraill dan raglen Erasmus: : Nid yw eich statws mewnfudo wedi newid, a byddwch yn parhau'n gymwys i dderbyn eich grant Erasmus o leiaf cyn hired ag y byddwn yn aelod o'r UE ac mae'n bosibl y caiff ei ymestyn ar ôl hynny hefyd.
Yn achos staff o'r UE:
Nid yw eich statws mewnfudo wedi newid o ganlyniad i'r bleidlais. Bydd hyn yn parhau hyd nes bydd y Llywodraeth yn penderfynu fel arall.
Holl staff sy'n cyflawni projectau ar hyn o bryd a gyllidir gan yr UE: Nid yw statws y DU fel aelod cyfranogol llawn o raglen Horizon 2020 wedi newid o ganlyniad i bleidlais y refferendwm a bydd grantiau a chontractau projectau presennol yn cael eu talu a'u cyflawni oni bai neu hyd y rhoddir gwybod fel arall.
Mae UUK (y grŵp sy’n cynrychioli Prifysgolion ym Mhrydain) yn cysylltu â Swyddfa Ymchwil y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd a bydd cyngor manwl ar ddarpar brojectau, a rhai sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd, yn cael ei roi i brifysgolion cyn gynted â phosibl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2016