Rhaglen ‘Ancient X Files’ sianel National Geographic yn galw ar arbenigedd Arthuraidd Prifysgol Bangor
Trodd cynhyrchwyr cyfres ‘Ancient X Files’ ar sianel National Geographic at Dr Raluca Radulescu, arbenigydd Arthuraidd o Ysgol Saesneg, Prifysgol Bangor, pan oeddynt eisio ymchwilio mytholeg a chwedlau’r Brenin Arthur a Marchogion y Bwrdd Crwn.
Yn ôl cynhyrchwr y rhaglen: “Yn yr oes fodern yma o wybodaeth, mae’n hawdd meddwl fod yr holl wybodaeth wrth law - ond mae llawer o gyfrinachau ysgytiol wedi eu claddu yn y gorffennol.”
Mae’r gyfres yn ymchwilio dirgelwch diddorol o’r byd hynafol ac yn cymryd arbenigwyr blaenllaw ar ‘daith darganfod’ er mwyn iddynt rannu’u gwybodaeth, eu theorïau a’i mewnwelediad gyda’r gwylwyr.
Mae’r rhaglen, The Sword in the Stone, yn trafod chwedlau yn ymwneud â tharddiad chwedl y cleddyf yn y garreg, a’r cyswllt â’r Brenin Arthur. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu Dydd Mawrth Gorffennaf 17 am 9.00pm ar sianel y National Geographic. Bydd ail ddarllediad Ddydd Mercher Gorffennaf am 1.00pm ac am 7.00pm.
Mae Dr Radulescu, yn arbenigwr blaenllaw ar lenyddiaeth Arthuraidd, pwnc mae wedi bod yn ymchwilio a dysgu ers dros 17 mlynedd. Mae hi'n parhau traddodiad Prifysgol Bangor o ragoriaeth yn y maes ymchwil. MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, sydd yn cael ei gydlynu gan Dr Radulescu, yw’r unig MA yn y maes yma ar gael unrhyw le yn y byd ac mae’n cynnig y cyfle i archwilio sawl agwedd ar y chwedlau sydd yn dal i oroesi ac i ddiddanu’n byd cyfoes.
Dywedodd Dr Radulescu: “ Roedd cymryd rhan yn y rhaglen yn gyfle gwych i mi dynnu sylw cynulleidfa newydd at fy niddordebau academaidd mewn cyfrwng newydd. Bydd myfyrwyr Chwedlau Arthuraidd a’r gynulleidfa gyffredinol yn cael ei synnu gan rhai o’r darganfyddiadau yn y rhaglen, sydd yn brawf o’r diddordeb eang sydd mewn chwedlau Arthuraidd.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012