Rhaglen deledu’n edrych ar ein hymchwil i ddiogelu brithyll môr
Bydd Dr Carys Ann Davies o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Great British Food Revival sydd wedi ail-gychwyn ar nos Fercher, 8.00 pm, 10 Hydref ar BBC 2.
Mae themâu i’r rhaglenni o fewn cyfres newydd y rhaglen boblogaidd hon ar fwydydd. Yn y rhaglen sydd i’w darlledu am 8pm nos Fercher 24 Hydref, mae’r Cogydd Raymond Blanc, sydd wedi ennill sêr Michelin, yn cyfarfod â Dr Davies i drafod brithyll y môr.
Meddai Dr Davies, “Roedd yn hwyl gweithio gyda chynhyrchwyr y rhaglen ac rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen derfynol. Roedd gan Raymond Blanc ddiddordeb mawr yn y Project Brithyll Môr Celtaidd ac yn cynnig un neu ddwy o ryseitiau i’w trio.”
Mae Dr Davies yn Swyddog Ymchwil ar Broject Brithyll y Môr Celtaidd, project cydweithredol gwerth miliynau o ewros gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor a phartneriaid ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae’r project ymchwil hwn yn edrych ar frithyll môr mewn dŵr croyw ac yn y môr o gwmpas Iwerddon gyfan. (www.celticseatrout.com)
Mae’r brithyll môr, a adwaenir hefyd yng Nghymru fel sewin, yn adnodd pwysig ar gyfer pysgota masnachol a hamdden, a hynny, yn ei dro, yn dod ag arian hollbwysig i gefn gwlad o dwristiaeth.
Fodd bynnag, mae niferoedd a maint y sewin wedi bod yn gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r sewin yn bysgodyn enigmatig; ychydig iawn a wyddom am ei fywyd yn y môr, heblaw am y ffaith ei fod yn dychwelyd i’w afon enedigol i ddodwy ei wyau.
Gyda’r nod yn y pen draw o ddiogelu’r rhywogaeth bwysig hon, mae project ymchwil mawr, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, yn anelu at wella’r ddealltwriaeth o amgylchedd ac arferion y pysgodyn pwysig hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012