Rhaglen flaenllaw ac arloesol i ymchwilwyr yn ennill gwobr genedlaethol
Mae rhaglen ddatblygu flaenllaw yng Nghymru a ddisgrifir fel un arloesol ac sy'n harneisio doniau prif ymchwilwyr Cymru i helpu i ddelio â rhai o heriau mwyaf cymdeithas wedi ennill gwobr genedlaethol.
Roedd Crwsibl Cymru, a ddisgrifiwyd fel menter sydd wedi cyflawni "effeithiau arloesol ar agweddau ac ymddygiadau", yn cystadlu yn erbyn pum prifysgol arall yn cynnwys prifysgolion Warwick a Sheffield, pan enillodd y wobr Cyfraniad Eithriadol i Ddatblygu Arweinyddiaeth yng ngwobrau Addysgu uwch y Times eleni.
Lansiwyd Crwsibl Cymru yn 2011, ac mae'n gweithredu mewn ffyrdd arloesol i ddatblygu arweinwyr ymchwil rhyngddisgyblaethol y dyfodol sydd ar ddechrau neu yng nghanol eu gyrfaoedd. Mae'r rhaglen, sydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn bartneriaeth rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe. Fe'i cefnogir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r rhaglen yn cynnwys tri gweithdy preswyl, dwys, deuddydd yr un neu "labordai sgiliau" dros gyfnod o dri mis, a chaiff cyfranogwyr eu cefnogi i ddatblygu cydweithio tu hwnt i'r rhaglen i helpu i wireddu eu syniadau. Mae'r rhaglen hefyd yn dyrannu lleoedd i ymgeiswyr o gyrff amrywiol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector fel y GIG, Tata Steel a Barnardo's Cymru. Mae Crwsibl Cymru hefyd wedi cyflwyno ymweliad astudio ar thema ymchwil i Frwsel, sy'n hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o bolisi Ewropeaidd a chyfleoedd cyllido rhyngddisgyblaethol.
Hyd yma, mae 90 o ymchwilwyr wedi eu recriwtio i'r rhaglen yng Nghymru gyda phrojectau ymchwil arloesol eisoes yn mynd rhagddynt er enghraifft, defnyddio ffuglen ddigidol i wella delwedd cyrff merched ifanc, 'pilsen glyfar' i helpu i wneud diagnosis o anhwylderau gastroberfeddol ac ap digidol i fynd i'r afael â gordewdra.
Meddai'r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor,
"Mae'r wobr hon yn cydnabod y cydweithio gwych a wneir gan brifysgol Bangor a'r prifysgolion eraill yn y Grwp Dewi Sant i sicrhau ein bod yn cadw ac yn datblygu ein hymchwilwyr mwyaf addawol yng Nghymru. Mae'r bobl allweddol hyn yn delio â rhai o'r problemau gwirioneddol sy'n wynebu cymdeithas. Bydd buddsoddi ynddynt yn dod â manteision i Gymru gyfan."
Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Cadeirydd Grwp Llywio Crwsibl Cymru, "Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth ardderchog o allu Crwsibl Cymru i ddatblygu sgiliau angenrheidiol y sylfaen academaidd yng Nghymru i gyflawni dulliau arloesol y gellir eu defnyddio yn y byd go iawn.
"Cynlluniwyd Crwsibl Cymru i gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a gweithio i ymchwilwyr sydd eisoes yn rhagori yn eu meysydd. Y nod yw creu newidiadau tymor hir mewn agweddau ac arferion gwaith, yn ogystal ag annog cydweithio ymarferol rhwng cyfranogwyr. Mae'r rhaglen sydd yn ei thrydedd flwyddyn erbyn hyn, wedi dangos sut mae'n parhau i roi sylw i anghenion prifysgol Cymru i sicrhau twf arweinwyr ymchwil at y dyfodol ar y cyd trwy gydweithio arloesol rhwng sefydliadau wedi ei ysbrydoli gan ymchwil."
Mae Gwobrau Addysg Uwch y Times yn gyfystyr ag Oscar ym maes addysg uwch ac yn cydnabod y gwaith arloesol a wneir gan sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae'r wobr am gyfraniad eithriadol i ddatblygu arweinyddiaeth ac fe'i noddir gan y Leadership Foundation for Higher Education. Ei bwriad yw cydnabod a gwobrwyo cynlluniau creadigol sy'n meithrin datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel o reoli.
Bydd y galwad am geisiadau i'r rhaglen 2014 yn agor ym mis Ionawr. Mae Crwsibl Cymru ar gyfer ymchwilwyr dawnus ar ddechrau neu yng nghanol eu gyrfa, gydag o leiaf dair blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, neu gyfwerth, mewn unrhyw ddisgyblaeth, yn cynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth, celfyddydau, cynllunio, gwyddorau cymdeithas a gwleidyddol. Rhaid bod y cyfranogwyr yn gweithio yng Nghymru, naill ai mewn sefydliad addysg uwch, neu ymchwil a datblygu ym maes busnes, diwydiant neu'r sector cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2013