Rhaglen gelfyddydol agoriadol Pontio yn edrych tua’r dyfodol wrth gydnabod y gorffennol
Bydd Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor, sydd ar drothwy agor ei drysau, yn cyhoeddi ei rhaglen artistig lawn heddiw, 28 Hydref 2015.
Bydd y rhaglen, sy’n rhedeg o Dachwedd 28 tan ddiwedd Ebrill, yn adlewyrchu natur hyblyg y ganolfan a’i gofodau, gyda digwyddiadau’n cynnwys popeth o berfformiad cyntaf drama newydd Theatr Genedlaethol Cymru Chwalfa, i berfformiad ar y cyd gyda chwmni syrcas gyfoes NoFit State, Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl yn dychwelyd i Fangor, noson yng nghwmni Ruby Wax, cyfle i glywed cerddoriaeth newydd yn noson DJ Huw Stephens yn cyflwyno…a digon o gomedi a sinema.
Bydd plant a theuluoedd yn cymryd lle allweddol yn y rhaglen, gyda digwyddiadau misol dan adain ‘Teulu Pontio’, cyfleoedd i gymryd rhan a digwyddiadau addysgiadol.
Mae’r tymor agoriadol hefyd yn gyfle i’r ganolfan gydnabod y gorffennol mewn sawl ffordd, gan gynnwys treftadaeth yr ardal leol drwy brosiect 9Bach Llechi a hanes y streic fawr yn Chwalfa, yn ogystal â gwaddol Theatr Gwynedd drwy arddangosfa a digwyddiad dathlu ar ddiwedd Ebrill.
Bydd y tymor yn cychwyn ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd gyda Disgleirio/Shine, Diwrnod Croeso i ddathlu agoriad y ganolfan i’r cyhoedd. Bydd y diwrnod yn cynnwys tri perfformiad 20munud o hyd gan gwmni syrcas cyfoes Pirates of the Carabina ac artistiaid lleol fydd yn perfformio yng nghyntedd trawiadol yr adeilad ac yn arddangos hyblygrwydd y ganolfan o ran cynnig perfformiadau arloesol. Yn ymuno â hwy fydd disgyblion o ysgolion Glanadda a Glancegin, fel rhan o gynllun cyfranogol Pontio, BLAS.
Ar Ragfyr 1af, bydd sinema y ganolfan yn agor yn swyddogol, gyda ffilm newydd sbon un o raddedigion Prifysgol Bangor Danny Boyle, Steve Jobs. Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Opera Canolbarth Cymru yn perfformio dathliad opera ar ffurf Ffigaro a Ffrindiau, bydd Only Men Aloud yn ymweld fel rhan o’i taith Nadolig ac fe fydd Cwmni Mega yn cynnig diddanwch llwyr i deuluoedd ac ysgolion drwy eu pantomeim Melltith y Brenin Lludd.
Bydd y ganolfan hefyd yn rhoi llwyfan i dalent lleol drwy gydol y rhaglen agoriadol, gan ddechrau yn mis Rhagfyr gyda gig yn cynnwys rhai o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Sŵnami, Yws Gwynedd a Yr Eira, Côr y Penrhyn a Chôr Meibion Llanelli ynghyd â Meinir Wyn Roberts a Glain Dafydd, a sioe gerdd newydd Ysgol Tryfan, Y Bancsi Bach.
Ymysg yr uchafbwyntiau yn y flwyddyn newydd mae sioe-un-ddynes Ruby Wax, Sane New World, gigiau comedi Comedy Central Live a sioe un-dyn Russell Kane, y pianydd Llŷr Williams a Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl a sioeau misol i blant a’i teuluoedd, gan gynnwys première y byd o These Books Are Made for Walking.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, “P’un ai’n ddigwyddiadau sy’n gwthio ffiniau, rhai sy’n wledd i’r llygad neu’r glust neu’n gyfle i ymlacio a chwerthin, fe gewch groeso cynnes yma. Rwyf wir yn gobeithio fod y rhaglen gyntaf hon yn dangos y math o ganolfan y mae Pontio’n gobeithio ei chreu, ac yn ein galluogi i ddeall yn well y math o ddigwyddiadau mae cynulleidfaoedd eisiau eu profi yma.”
Dymunodd Bryn Terfel pob llwyddiant i Pontio wrth i’r ganolfan, sydd yn cynnwys theatr wedi ei enwi ar ei ôl, gyhoeddi ei rhaglen agoriadol:
“Mae’n fraint anhygoel i mi’n bersonol fod rhywun wedi hyd yn oed cysidro enwi theatr ar fy ôl. Mae Pontio wedi cymryd ei amser i gael ei adeiladu, a heb amheuaeth, dylid fod wedi cymryd amser i’w adeiladu. Unwaith y mae’r ganolfan ar agor, yn sicr fi fydd y cyntaf i fod yno, naill ai fel aelod o’r gynulleidfa neu fel perfformiwr, ac ar yr adeg iawn, fe fydd dyddiadau’n cael eu hychwanegu. Yn y cyfamser, rwyf yn dymuno’r gorau i Pontio, ei holl staff a’r tîm creadigol, heb eu hetiau caled, ar gyfer tymor agoriadol i’w gofio.”
Tocynnau ar gael o wefan Pontio, drwy ffonio 01248 38 28 28 neu drwy alw yn y siop ar y Stryd Fawr o 10am heddiw, 28 Hydref 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015