Rhaglen hyfforddiant ffilmiau cyntaf i Gymru wedi'i henwebu am wobr
Mae rhaglen hyfforddiant ffilmiau sy'n bwriadu rhoi cyfle i bobl ifanc ffurfio gyrfa yn y diwydiant ffilmiau, ac a gynigiwyd yng Nghymru am y tro cyntaf eleni, wedi cael ei henwi'n un o'r rhai buddugol am wobr y Loteri Genedlaethol.
Mae Academi Ffilmiau'r BFI, a gynhelir mewn sawl lleoliad, gan gynnwys ym Mangor gan staff ac alumni yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, yn un o saith project a oedd yn fuddugol yng nghategori 'Gwobr Addysg' Gwobrau Achosion Da'r Loteri Genedlaethol 2014.
Dewisir yr enillydd drwy bleidlais gyhoeddus, ac mae'n bosib gwneud hynny yma. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2014.
Yn yr Academi Ffilmiau BFI, caiff pobl ifanc ddawnus 16-19 oed eu mentora dros y tri phenwythnos gan fyfyrwyr presennol a graddedigion diweddar o gwrs MA y brifysgol ar wneud ffilmiau. Mae pobl ifanc o bob rhan o Gymru a gwledydd eraill Prydain sydd eisoes wedi cymryd rhan wedi rhoi canmoliaeth fawr i'r cwrs.
Meddai Isaac Mohammed Nasser, a deithiodd o Gaerdydd i gymryd rhan “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel ymhell tu draw i'm disgwyliadau.
"Cawsom ddefnyddio offer gwych a chael mentoriaid rhagorol. Mae wedi rhoi dealltwriaeth helaethach i mi o fframwaith y diwydiant ffilmiau a sut i ymwneud ag o."
Yn ogystal â ffilmio a golygu rhaglen ddogfen fer, gall y rhai sy'n cymryd rhan rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau am raglenni dogfen ac ymarferwyr uchel eu parch yn eu maes.
Joanna Wright, darlithydd Ymarfer yn y Cyfryngau, a gynhaliodd y project ar ran yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, gyda chyfraniad gan alumni a staff cynhyrchu eraill yn yr ysgol.
"Rydyn ni wrth ein boddau o gael ein henwebu - dyma'r tro cyntaf i'r Academi BFI gael ei chynnal yng Nghymru, felly mae'n arbennig o gyffrous," meddai.
“Un o'r pethau gorau am yr Academi Rhaglenni Dogfen yw'r cydweithio gwych a ddigwyddodd, rhwng gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, addysg, ein mentoriaid myfyrwyr, ac wrth gwrs, dawn ac ymroddiad y bobl ifanc a gymerodd ran.
“Mae'r Academi BFI yn ffordd wych i helpu i ddemocrateiddio diwydiant a all fod yn anodd iawn mynd i mewn iddo, yn arbennig i ffwrdd o ganolfannau dinesig.
"Pleidleisiwch i ni, mae llwyddiant y project yn golygu y gallwn eri gynnig eto a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol."
Cynhelir yr Academi Rhaglenni Dogfen BFI eto ym Mangor ym mis Hydref 2014. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2014