Rhaglen LEAD Cymru'n cefnogi twf busnesau Cymru
Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), mae LEAD Cymru, Project a leolir yn rhannol yn Ysgol Busnes Prifygsol Bangor mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arweiniol wrth gefnogi twf busnesau Cymru.
Mae Arwain Busnesau Bach Cymru: Rhaglen LEAD Cymru 2010-2012, adroddiad ymchwil sy'n ystyried dwy flynedd gyntaf rhaglen datblygu arweinyddiaeth LEAD Cymru, yn amlygu effaith y rhaglen ar dwf busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac ar economi Cymru.
Ar ddiwedd y rhaglen ddeng mis, mae'r effeithiau'n cynnwys:
- Cynnydd o 2.3 o swyddi ym mhob busnes, ar gyfartaledd (rhai ohonynt yn rhan amser);
- Cynnydd o 26% yn nhrosiant pob busnes, ar gyfartaledd.
Ar draws Cymru gyfan, mae'r data'n dangos bod busnesau'n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl cwblhau'r rhaglen. Roedd dros hanner y rhai a ymatebodd yn dweud bod trosiant a chynhyrchiant staff wedi cynyddu.
Dywedodd Ceri Jones, Cyfarwyddydd Prosiect LEAD Cymru: "Mae LEAD Cymru'n fodel datblygu arweinyddiaeth sy'n llwyddo i gefnogi perchen-reolwyr busnesau bach a chanolig o fewn yr amgylchedd busnes maent yn gweithredu ynddo.
"Mae'r ymchwil hwn yn dangos bod LEAD Cymru'n gwneud cyfraniad clir i ffyniant economaidd Cymru, a bod busnesau'n dweud bod eu trosiant a nifer eu staff yn cynyddu."
Dywedodd Dr Karen Jones, cyd-awdur yr adroddiad: "Calonogol yw gweld hefyd bod LEAD Cymru'n cael effaith hirdymor, a bod busnesau'n parhau i ehangu ac i arloesi flwyddyn ar ôl cwblhau'r rhaglen."
Ariannir rhaglen LEAD Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, a Phrifysgolion Abertawe a Bangor er mwyn darparu rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer perchen-reolwyr busnesau bach a chanolig yn Ardal Cydgyfeirio Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.leadwales.co.uk
Mae LEAD Cymru'n rhaglen datblygu arweinyddiaeth, sy'n para deng mis, ac sydd ar gael i berchen-reolwyr busnesau bach a chanolig, gan gynnwys cyfarwyddwyr rheoli rhai mentrau cymdeithasol, yn Ardal Cydgyfeirio Cymru.
- Ers 1 Gorffennaf 2009, mae 375 o berchen-reolwyr wedi cofrestru ar y rhaglen.
- Ers 1 Gorffennaf 2009, mae 239 o berchen-reolwyr wedi graddio o raglen LEAD Cymru.
- Lluniwyd yr adroddiad ymchwil gan dîm ymchwil LEAD Cymru. Seilir y ffigyrau ar ddata a gasglwyd rhwng 2010 a 2012, gan gynnwys: holiadur gwaelodlin, holiadur ymadael, arolwg dilyniant blynyddol, grwpiau ffocws, a chyfweliadau naratif bywgraffyddol dwys, ac fe'u seilir ar brofiad dros 300 o gyfranogwyr.
Steve Edmunds, Cottam & Brookes Eng Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Mai 2011: "Yn bersonol, dwi wedi sylweddoli bod angen i fi gamu'n ôl er mwyn gweld lle'r mae busnes yn mynd. Mae hyn wedi bod yn anodd mewn cyfnod twf, ond ymddengys ei fod yn gweithio. Mae'r ffordd y mae rhaglen LEAD Cymru wedi'i sefydlu ac yn cael ei rhedeg yn wych. Hawdd iawn yw gweld sut mae'r cwrs wedi cael y fath ganlyniadau."
Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr Waters Creative, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Tachwedd 2011: "Roeddwn i'n falch o fod yn rownd derfynol y categori arweinyddiaeth busnes o Wobrau Ysbrydoli Cymru 2012, a drefnwyd gan Sefydliad Materion Cymru a'r Western Mail. Oni bai i mi ymuno â rhaglen LEAD Cymru, mi wn na fyddai gen i ddigon o hyder i geisio am y wobr; a dwi'n gwbl sicr bod y sgiliau a ddysgais ar y rhaglen wedi bod yn allweddol wrth i fi gyrraedd y rhestr fer o dri enw."
Anne-Marie Rogan, Prif Swyddog Gweithredol YMCA Abertawe, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Hydref 2012: "Eleni, penderfynais ymuno â rhaglen LEAD Cymru, a gallaf ddweud yn ddi-flewyn-ar-dafod taw dyma un o'r pethau gorau wnes i erioed. Pam? Yr amseru, y cynnwys, y bobl - dyna wnaeth y rhaglen i fi. Mae Rhaglen LEAD wedi gwneud i mi sylweddoli o ddifrif beth yw potensial arweinyddiaeth. Mae wedi fy helpu i ddeall pam fy mod yn gwneud yr hyn dwi'n ei wneud, effaith yr hyn dwi'n ei wneud, sut i wella'r hyn dwi'n ei wneud ... yr effaith ar y busnes, a sut mae fy ngweithredoedd a f'arweinyddiaeth yn effeithio ar gyfeiriad, arddull, diwylliant, a'r llinell waelod."
Kevin Leonard Betts, Perchen-reolwr CarbonSave Solution, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012: "Profiad bondio rhagorol oedd LEAD. Un o'r pethau gorau oedd y gefnogaeth gan y setiau dysgu gweithredol pan aeth pethau'n anodd arna i. Roedd yn fy ngalluogi i ymateb i sefyllfaoedd heb yr emosiwn, gan allu galw ar gyfeillion da pryd bynnag oedd angen."
Gwyn Humphrey Jones, Perchen-reolwr Meditec Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012: "Codais i nifer o syniadau da iawn o'r rhaglen, ac mae hynny wedi arwain at lawer o fusnes newydd i mi. Roedd y Setiau Dysgu Gweithredol o gymorth mawr. Dwi wir yn gwerthfawrogi cael cyfle i ymuno â'r rhaglen."
Christopher B Owens, Perchen-reolwr Hughes Bros (Llanrwst & Trefriw) Ltd, a gwblhaodd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2012: "Roedd profiad LEAD wedi rhoi mwy o hyder i mi i herio f'ofnau, ac i yrru fy musnes yn ei flaen gyda phecyn offer mwy cyflawn."
Karen Hughes, Michael Phillips Care Agency Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012: "Roeddwn i'n ofnus, braidd, wrth gychwyn rhaglen LEAD Cymru ym mis Medi 2011, ond gallaf ddweud yn gwbl onest ar ôl graddio ym mis Gorffennaf 2012 bod y profiad wedi bod yn un braf iawn. Roedd y sesiwn gychwynnol yn tynnu ar ochr orau pawb, a gwnaed llawer o ffrindiau newydd. Cefais i wybodaeth sylweddol o bob Dosbarth Meistr, ac roedd y Setiau Dysgu Gweithredol bach yn arf werthfawr tu hwnt i bawb yn fy ngrŵp i. Peth naturiol oedd teimlo'n amheugar, gan mai gofyn mawr yw rhannu cyfrinachau mwyaf eich busnes. Roedd cysgodi a chyfnewid yn brofiadau anhygoel; roedd yr wybodaeth, yr eglurdeb, a'r syniadau newydd yn helpu pawb i esblygu ac i yrru eu busnesau yn eu blaen. Buaswn i'n argymell perchennog unrhyw fusnes i ymuno â rhaglen LEAD Cymru."
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012