Rhaglen Menter yr Ifanc
Mae’r tîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn gyffrous iawn o fod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn y Rhaglen Menter yr Ifanc - cyfle i brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny. Bydd Prifysgol Bangor yn sefydlu 4 busnes newydd y gall myfyrwyr gymryd rhan i’w siapio. Bangor yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan eleni, a bydd yn cystadlu yn erbyn prifysgolion ar draws Brydain.
Bu i chwedeg pedwar o fyfyrwyr o amrywiaeth eang o ysgolion academaidd gymryd rhan yn y lansiad yn ddiweddar. Dechreuodd Callum Jones o Fenter yr Ifanc y digwyddiad gyda chyflwyniad i’r rhaglen. Rhoddwyd rhagor o ysbrydoliaeth gan Dr James Intriligator, Cyfarwyddwr Masnacheiddio yn yr Ysgol Seicoleg, a Rob Popsys, hyfforddwr a mentor proffesiynol o Willcando. Bu i Chris Walker, hwylusydd profiadol a mentor busnes o People Systems International, helpu myfyrwyr i feddwl am y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol mewn timau. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn ‘gweithgaredd hunan-drefnu’ lle’r oeddent yn cael cyfle i gyflwyno syniad busnes i’r ystafell i ddenu eraill i’r syniad. Mae ganddynt gyfle ar-lein yn awr i bleidleisio am y syniad maent yn dymuno’i ddatblygu, a ffurfio timau a fydd yn datblygu syniad busnes go iawn dros y flwyddyn i ddod. Bydd Siwan Mitchelmore, Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, yn rhan o’r gefnogaeth fentora a gynigir i’r tîm.
Mae’r rhaglen, sy’n rhoi mynediad at ymgynghorwyr busnes, yn costio £1,500 fesul tîm fel rheol, ond mae am ddim ym Mangor drwy gysylltiadau’r Brifysgol gyda Santander sy’n cefnogi’r cynllun. Bydd y timau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd cyn mynd ymlaen i rownd derfynol Prydain yn Llundain, ac i’r rownd derfynol Ewropeaidd wedyn os byddant yn llwyddiannus.
Gall myfyrwyr unigol sy’n cwblhau’r rhaglen ennill 50 pwynt profiad tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA) am gymryd rhan. Dywedodd John Jackson, Rheolwr y BEA am Fenter yr Ifanc, ‘Mae’r rhaglen hon yn ychwanegiad gwych i’r portffolio o gyfleoedd sy’n gymwys am bwyntiau profiad yng nghynllun y BEA. Mae sefydlu a rhedeg busnes yn amlwg o fudd i’ch cyflogadwyedd, a rhywbeth pwysig i’w gofio yw y gellir gwella sgiliau intrepreneuraidd drwy gyfleoedd fel hyn hefyd; nid oes angen i chi weithio i chi’ch hun er mwyn defnyddio’r sgiliau sydd eu hangen yn y meysydd hyn, ac mae cael profi a fyddech chi’n hoffi ai peidio yn fuddiol iawn’
Trefnir digwyddiad Menter yr Ifanc gan y project Byddwch Fentrus o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012