Rhaglen The One Show yn cofio ymweliad The Beatles â Bangor
Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.
Mae gan y rhaglen gyfres achlysurol yn edrych ar adegau pan fo aelodau’r cyhoedd yn cyfarfod â sêr y byd pop. Mae’r eitem ar rhaglen ddydd Mawrth, yn ymdrin ag ymweliad y Beatles â Bangor i gyfarfod â Maharishi Mahesh Yogi. Cafodd y One Show afael ar bobl leol a oedd wedi bod yn rhan o’r ymweliad a’u cael i rannu eu hatgofion am y dyddiau hynny yn 1967. Cafodd Roy Flynn a Malgwyn Hughes eu cyfweld gan y cyflwynydd Carrie Grant. Danfonodd Roy, a oedd yn hogyn danfon telegramau ar y pryd, a Malgwyn, a oedd yn bostmon, delegram i’r Beatles tra oeddent yn aros yn Neuadd Dyfrdwy'r Coleg Normal, sydd bellach yn rhan o’r Ganolfan Rheolaeth.
Yn cymryd rhan hefyd roedd Geoff Dacre a Colin Evans. Pan yn dau fachgen ysgol blaengar, llwyddodd y ddau i berswadio y rhai afu’n gyfrifol am ddiogelwch, eu bod yn ffotograffwyr ar gyfer y wasg, a mynd i mewn i’r cyfarfod yn Neuadd John Philip. Llwyddod y ddau i dynnu ambell lun cyn ei heglu hi o ‘na cyn i bobol sylweddoli pa mor ifanc oedd y ‘ffotograffwyr y wasg’ yn edrych!
Am fwy o wybodaeth am ymweliad y Beatles â Bangor, ewch i:www.bangor.ac.uk/studentlife/features/beatles.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010