Rhaglen wedi’i gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd yn barod i greu mwy o arweinyddion
Mae rhaglen arweinyddiaeth blaenllaw ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi sicrhau ffynhonell o £2.7m drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
“ION leadership” fydd enw’r rhaglen newydd ac mae’n darparu cyrsiau arweinyddiaeth wedi’u rhan-ariannu ar gyfer 600 o berchnogion busnes ac arweinyddion newydd yn Ardal Cydgyfeiriant Cymru.
Wedi’i ddatblygu o lwyddiant LEAD Cymru, sydd wedi creu 2424 o swyddi yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac wedi creu twf net o £52,443,908 yn nhrosiant Busnesau Cymru, mae’r rhaglenni newydd yma yn ddatblygiad gan dim LEAD Cymru ei hun.
Mae’r cynnig bellach wedi tyfu i 3 rhaglen, effeithiol a deniadol ar gyfer arweinyddion gyda lefelau amrywiol o brofiad (cyfnod cynnar, datblygu ac uwch), bydd “ION leadership” yn rhoi hwb i dwf unrhyw sefydliad. Bydd y perchnogion busnes sydd yn gymwys yn siwr o gael gwerth eu harian a’u hamser ar y rhaglenni.
Meddai Sean Taylor o Tree Top Adventures, Zip Wire a Bounce Below:
"Rydym wedi gwynebu sawl sialens yn y blynyddoedd diwethaf. Daeth rhaglen LEAD Cymru ar yr amser cywir I mi a’r busnes. Roedd yn help treulio amser gyda pherchnogion busnes eraill a thrafod syniadau mewn sefyllfa gyfrinachol. Rhai o’r sialensau oedd materion yn ymwneud efo staff a chyfnod lle roeddwn yn edrych ar gychwyn mwy o fusnesau.
Yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth a Phrifysgol Bangor, mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr busnes, 10 entrepreneur sydd wedi cael dros 300+ o flynyddoedd o brofiad ym maes busnes a gweithio mewn busnesau."
Pam ddylech chi ymgeisio ar gyfer rhaglen Arweinyddiaeth ION ?
Dysgu sut i gyflwyno y meddylfryd diweddaraf, strategaethau ac ymarferion gorau ar gyfer eich busnes.
Taclo materion a sialensau yr ydych yn eu gwynebu.
Dewis rhwng 3 rhaglen addas ar gyfer gwahanol lefelau o brofiad arweinyddiaeth.
Cyfarfod perchnogion busnesau lleol eraill a datblygu eich rhwydwaith yn syth.
Gwneud y mwyaf o’r cyfle: mae rhaglenni Arweinyddiaeth ION wedi’u rhan-ariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
I ddysgu mwy am raglenni arweinyddiaeth ION ymwelwch â’n gwefan www.ionleadership.co.uk neu gallwch siarad gyda arbenigwr datblygu arweinyddiaeth ar 01248 382497
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2016